İzmir
Dinas a phorthladd yng ngorllewin Twrci yw İzmir (Groeg: Σμύρνη, Smýrni), hefyd Smyrna. İzmir yw ail borthladd Twrci, ar ôl Istanbul, a thrydedd dinas y wlad, gyda phoblogaeth o 4,130,444 yn 2009). Saif tua 450 km o'r de-orllewin o Istanbul. Hi yw prifddinas talaith İzmir.
Math | bwrdeistref fetropolitan Twrci, dinas â phorthladd |
---|---|
Poblogaeth | 2,948,609 |
Sefydlwyd |
|
Pennaeth llywodraeth | Cemil Tugay |
Cylchfa amser | UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | Ancona, Bălţi, Baku, Bishkek, Bremen, Bukhara, Tref y Penrhyn, Chengdu, Chernivtsi, Constanța, Esparza Canton, Famagusta, Dinas Gaza, Sir Hamyang, La Habana, Kardzhali, Long Beach, Mostar, Mumbai, Gogledd Nicosia, Odense, Plzeň, São Paulo, Sarajevo, Shymkent, Skopje, Sousse, Split, Surabaya, Tampa, Tel Aviv, Tianjin, Torino, Türkmenabat, Volgograd, Wuhan, Xiamen |
Daearyddiaeth | |
Sir | İzmir |
Gwlad | Twrci |
Arwynebedd | 944 km² |
Uwch y môr | 9 metr |
Gerllaw | Gulf of İzmir, Môr Aegeaidd, Afon Gediz |
Yn ffinio gyda | Menemen, Manisa, Kemalpaşa, Torbalı, Menderes, Seferihisar, Urla |
Cyfesurynnau | 38.4°N 27.1°E |
Cod post | 35000–35999 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of İzmir |
Pennaeth y Llywodraeth | Cemil Tugay |
Sefydlwyd y ddinas tua 3000 C.C.. Rhwng tua 2000 C.C. a 1200 C.C., roedd yn ffurfio rhan o Ymerodraeth yr Hethiaid. Tua'r flwyddyn 1000 C.C., fe'i poblogwyd gan ymfudwyr o Wlad Groeg ac Anatolia. Yn 688 CC, fe'i cipiwyd gan ddinas Colofon, a daeth yn rhan o Gynghrair Ionia. Newidiodd ddwylo sawl gwaith yn ystod y canrifoedd nesaf. Yn 1922 daeth yn rhan o Dwrci, a gorfodwyd tua miliwn o Roegiaid i adael i ddinas a symud i Wlad Groeg.