12 Rhagfyr
dyddiad
<< Rhagfyr >> | ||||||
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su |
1 | 2 | 3 | 4 | 5 | 6 | |
7 | 8 | 9 | 10 | 11 | 12 | 13 |
14 | 15 | 16 | 17 | 18 | 19 | 20 |
21 | 22 | 23 | 24 | 25 | 26 | 27 |
28 | 29 | 30 | 31 | |||
2020 | ||||||
Rhestr holl ddyddiau'r flwyddyn |
12 Rhagfyr yw'r chweched dydd a deugain wedi'r trichant (346ain) o'r flwyddyn yng Nghalendr Gregori (347ain mewn blynyddoedd naid). Erys 19 diwrnod arall hyd ddiwedd y flwyddyn.
Digwyddiadau
golygu- 627 - Brwydr Ninefeh
- 1787 - Pennsylvania yn dod yn dalaith yr Unol Daleithiau.
- 1901 - Derbyniodd Guglielmo Marconi y signal radio cyntaf i groesi'r Môr Iwerydd.
- 1911 - Daw Delhi yn brifddinas India.
- 1963 - Enillodd Cenia ei hannibyniaeth ar Brydain.
- 1964 - Jomo Kenyatta yn dod yn Arlywydd Cenia.
- 1991 - Daw Abuja yn brifddinas Nigeria.
- 2003 - Paul Martin yn dod yn Brif Weinidog Canada.
- 2016 - Bill English yn dod yn Brif Weinidog Seland Newydd.
- 2019 - Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2019.
Genedigaethau
golygu- 1574 - Ann o Ddenmarc, brenhines Iago I/VI o Loegr a'r Alban (m. 1619)
- 1731 - Erasmus Darwin, ffisegydd, athronydd natur, ffisiolegydd, dyfeisiwr a bardd (m. 1802)
- 1821 - Gustave Flaubert, nofelydd (m. 1880)
- 1845 - Fanny Churberg, arlunydd (m. 1892)
- 1863 - Edvard Munch, arlunydd (m. 1944)
- 1884 - Zinaida Serebriakova, arlunydd (m. 1967)
- 1913 - Adiya Sitdikova, arlunydd (m. 2000)
- 1914 - Lilo Rasch-Naegele, arlunydd (m. 1978)
- 1915
- Shogo Kamo, pêl-droediwr (m. 1977)
- Frank Sinatra, canwr ac actor (m. 1998)
- 1924 - Ed Koch, gwleidydd (m. 2013)
- 1928
- Tshingiz Aitmatof, awdur (m. 2008)
- Helen Frankenthaler, arlunydd (m. 2011)
- 1930 - Gwyneth Dunwoody, gwleidydd (m. 2008)
- 1934 - Miguel de la Madrid, Arlywydd Mecsico (m. 2012)
- 1938 - Connie Francis, cantores
- 1940 - Dionne Warwick, cantores
- 1945 - Portia Simpson-Miller, gwleidydd
- 1946 - Emerson Fittipaldi, gyrrwr Fformiwla Un
- 1949 - Bill Nighy, actor
- 1961 - Daniel O'Donnell, canwr
- 1975 - Mayim Bialik, actores
- 1977 - Hiromi Kojima, pêl-droediwr
Marwolaethau
golygu- 884 - Y brenin Carloman, tua 70
- 1595 - Roger Williams, milwr ac awdur, 55
- 1963 - Theodor Heuss, Arlywydd yr Almaen, 79
- 1996 - Vance Packard, awdur, 82
- 1999 - Joseph Heller, nofelydd, 76
- 2015 - Galina Smirnova, arlunydd, 86
- 2016 - Jim Prior, gwleidydd, 89
- 2019 - Syr Peter Snell, athletwr, 80
- 2020
- John Ffowcs Williams, peiriannydd, 85
- John le Carré, awdur, 89
- Charley Pride, canwr, 86