Aaron Ramsey
Pêl-droediwr Cymreig yw Aaron James Ramsey (ganwyd 26 Rhagfyr 1990) sy'n chwarae i Dinas Caerdydd yn yr EFL Championship a thîm Cenedlaethol Cymru.
Ramsey gyda tîm Cymru yng Nghwpan y Byd 2022 | |||
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Enw llawn | Aaron James Ramsey[1] | ||
Dyddiad geni | 26 Rhagfyr 1990 | ||
Man geni | Caerffili, Cymru | ||
Taldra | 1.82m [2] | ||
Safle | Canol Cae | ||
Y Clwb | |||
Clwb presennol | Dinas Caerdydd | ||
Rhif | 10 | ||
Gyrfa Ieuenctid | |||
1997–2007 | Dinas Caerdydd | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
2006–2007 | Dinas Caerdydd | 16 | (1) |
2008-2019 | Arsenal F.C. | 187 | (28) |
2010–2011 | → Nottingham Forest (benthyg) | 5 | (0) |
2011 | → Dinas Caerdydd (benthyg) | 6 | (1) |
2019-2022 | Juventus | 49 | (5) |
2022 | → Rangers (benthyg) | 7 | (2) |
2022–2023 | Nice | 27 | (1) |
2023– | Dinas Caerdydd | 5 | (2) |
Tîm Cenedlaethol‡ | |||
2005–2008 | Cymru dan 17 | 15 | (2) |
2006 | Cymru dan 19 | 12 | (2) |
2006–2008 | Cymru dan 21 | 4 | (2) |
2006– | Cymru | 82 | (20) |
2012 | Prydain Fawr | 5 | (1) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 03 Medi 2023. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Dechreuodd Ramsey ei yrfa broffesiynol gyda Dinas Caerdydd. Ymunodd â'r clwb yn wyth mlwydd oed ar ôl denu sylw sgowtiaid y clwb mewn cystadleuaeth bêl-droed a drefnwyd gan yr Urdd yng Nghaerdydd[3]. Llwyddodd i dorri record John Toshack fel y chwaraewr ieuengaf erioed i chwarae i dîm cyntaf Caerdydd ym mis Ebrill 2007 pan yn 16 mlynedd a 124 o ddyddiau oed[4].
Symudodd i Arsenal F.C. yn 2008 am ffi o £5 miliwn[5]. Enillodd wobr Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn 2009 a 2010.[6]
Ar 11 Chwefror 2019 arwyddodd i glwb Juventus ar gytundeb o bedair blynedd, ac ymunodd yn swyddogol ar 1 Gorffennaf 2019.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Premier League Squad List" (PDF). 2012-02-02. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-02-27. Cyrchwyd 2014-05-16. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Sky Sports - Player Profile - Aaron Ramsey". SkySports.com.
- ↑ "BBC Newyddion". 2012-07-04. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "The Guardian". 2013-11-29. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "BBC Sport". 2008-06-13. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Sgorio". s4c.co.uk. 2010-10-04.