Aberllefenni

pentref yng Ngwynedd

Mae Aberllefenni ("Cymorth – Sain" ynganiad ) yn bentref yn ne Gwynedd, yn nyffryn Afon Dulas ac ar y ffordd gefn sy'n gadael y briffordd A487 ym mhentref Corris; cyfeirnod OS: SH 77044 09940. Mae'r ffordd yma yn arwain tua'r gogledd-ddwyrain i Aberllefenni, yna'n troi tua'r dwyrain i Aberangell. Mae'r pentref yn rhan o gymuned Corris.

Aberllefenni
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.6736°N 3.8197°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH770097 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map
 
Aberllefenni tua 1885

Ar un adeg yr oedd y diwydiant llechi yn bwysig iawn yma, ac y mae olion hen chwareli o gwmpas y pentref. Roedd chwareli Foel Grochan, Hen Chwarel a Ceunant Ddu gyda'i gilydd yn ffurfio Chwarel Lechi Aberllefenni. Roedd Rheilffordd Corris yn gorffen yn Aberllefenni, ac yn cario llechi i Fachynlleth. Cysylltid y chwareli mwyaf pellennig a'r rheilffordd gan Dramffordd Ratgoed.

Credir fod y ffordd Rufeinig Sarn Helen yn mynd trwy'r pentref, ac efallai fod yr enw Pensarn am deras o dai yma yn cyfeirio ati. Ar un adeg gelwid Llyn Cob yn "Llyn Owain Lawgoch", er nad oes cofnod hanesyddol o Owain Lawgoch yn yr ardal yma. Ymhlith yr adeiladau diddorol mae Plas Aberllefenni. Roedd rhannau o hwn wedi eu hadeiladu yn y Canol Oesoedd, ond tynnwyd y rhan yma i lawr yn y 1960au, a dim ond rhannau mwy diweddar a gadwyd.

Pobl o Aberllefenni

golygu

Gweler hefyd

golygu

Dolenni allanol

golygu
  NODES
os 12