Adda o Frynbuga

cyfreithiwr

Offeiriad, canonydd a hanesydd canoloesol o Gymru oedd Adda o Frynbuga (Lladin, Adæ de Usk: c. 13521430). Mae'n adnabyddus am ei gronicl Lladin o hanes Cymru a Lloegr yn ei gyfnod, Chronicon Adæ de Usk, sy'n ffynhonnell bwysig ar gyfer hanes gwrthryfel Owain Glyndŵr.

Adda o Frynbuga
Ganwydc. 1352, c. 1350 Edit this on Wikidata
Bu farw1430 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethhanesydd Edit this on Wikidata

Cafodd Adda ei eni ym Mrynbuga, Gwent, yn ne-ddwyrain Cymru (Sir Fynwy heddiw). Cafodd nawdd gan Edmund Mortimer, 3ydd Iarll y Mers, a etifeddasai Arglwyddiaeth Brynbuga trwy ei wraig Philippa. Gyda chefnogaeth Mortimer, aeth Adda i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen, lle enillodd ei ddoethuriaeth a statws extraordinarius (arbenigwr) mewn Cyfraith Ganonaidd. Arosodd yn Rhydychen fel athro yn y Gyfraith. Cymerodd ran yn yr ymladd arfog rhwng y Gogleddwyr a'r Deheuwyr yn y ddinas honno rhwng 1388 a 1389, gan ochri â'r Deheuwyr, a gafodd gefnogaeth y Cymry, am ei fod yn Gymro.

Ar ôl gadael Rhydychen gweithiodd fel twrnai canonaidd yn Lloegr am saith mlynedd. Bu'n un o'r twrneiod a holodd yr heretig o Lolard, Wallter Brut yn 1390. Bu yn llys esgobaeth Caergaint o 1390 hyd 1397, ac yn 1399 aeth gyda Thomas Arundel, Archesgob Caergaint yng ngosgordd Bolingbroke ar ymdaith ei fyddin o Fryste i Gaer. Byth ar ôl hynny bu'n elyniaethus tuag at Risiart II. Cafodd ei wobrwyo gyda sawl bywoliaeth yng Nghymru a'r Gororau gan Bolingbroke am ei ran yng nghwymp Rhisiart II, a oedd yn cynnwys cael prebend yn Eglwys Gadeiriol Bangor.

Ond collodd ffafr y brenin newydd ac ymadawodd am Rufain yn Chwefror 1402. Cyfarfu â'r pabau Boniffas IX ac Innocent VII, a chynigwyd esgobaethau Henffordd a Thyddewi iddo, ond ni lwyddodd i gael caniatad Harri IV o Loegr (Bolingbroke).

Roedd hyn i gyd yng nghyfnod gwrthryfel Owain Glyndŵr. Gwyddys fod Adda mewn cysylltiad â rhai o gynghreiriaid Glyn Dŵr ond mae ei ran yn y gwrthryfel yn ansicr. Ymddengys fodd bynnag fod ei gydymdeimlad amlwg ag achos Glyn Dŵr yn rheswm arall dros aros yn Rhufain. Torrodd trefysgoedd allan yn y ddinas ac yn 1406 gadawodd am Bruges yn Fflandrys. Gweithiodd fel twrnai yno ac yn Ffrainc.

Yn 1408 dychwelodd Adda i Gymru, gan lanio yn Abermaw, ac aeth yn gaplan yn Y Trallwng dan nawdd Edward Charlton, Arglwydd Powys, gŵr y bu gan ei wraig gysylltiad ag Arglwyddiaeth Brynbuga.

Derbyniodd Adda bardwn brenhinol yn 1411. Ond yn 1414 bu farw Thomas Arundel, Archesgob Caergaint, a chollodd Adda ffynhonnell nawd bwysig. Treuliodd weddill ei oes yn gymharol dlawd a bu farw yn 1430. Cafodd ei gladdu yn eglwys Brynbuga, lle gellir gweld ei feddargraff ar ffurf cywydd o hyd. Yn ei Ewyllys gadawodd grantiau i Esgobaeth Llandaf a sawl unigolyn o Gymro, yn cynnwys ei berthynas Edward ab Adam, sef ei gopi personol o Polychronicon Ranulf Higdon.

Ei gronicl

golygu

Gyda'r Polychronicon gadawodd lawysgrif ei gronicl ei hun. Mae'n llawn manylion am ddigwyddiadau cyfoes yng Nghymru, Lloegr ac Ewrop o 1377 hyd 1421, ac yn ddrych i fedddwl a bywyd Adda ei hun hefyd. Cyfarfu â sawl brenin a phab a bu'n byw yn rhai o ddinasoedd mawr y cyfnod. Roedd yn gyfarwydd â Chymru a'i gwleidyddiaeth hefyd, ac mae ei gronicl yn ffynhonnell amhrisiadwy am ddigwyddiadau cyfnod gwrthryfel Glyn Dŵr.

Ei gofeb yn Eglwys Brynbuga

golygu
 
Priordy y Santes Fair, lle gorwedd Adda, alle ceir cofeb efydd iddo.

Ceir plac efydd yn Eglwys y Santes Fair, Brynbuga (eglwys a sefydlwyd yn y 12g gan Richard de Clare) a oedd yn gryn ddirgelwch i haneswyr Cymru am flynyddoedd, ond a drawsysgrifiwyd fel a ganlyn gan John Morris Jones:[1]

Nôl clod i veddrod iar vein,
advocad llawnhad Llundain
A barnwr byd breint arab-
ty nef a vo i ti, ha vab!

Selyf swynnwyr, synna, sy,
Adam Wysk, yna yn kwsky,
Dec kwmmwd doctor kymen
llyna le yn llawn o lên!

Mae'r gerdd goffa, neu farwnad yma ar ffurf cywydd.

Llyfryddiaeth

golygu

Gwaith llenyddol

golygu
  • Adda o Frunbyga: Chronicon Adæ de Usk, gol. Edward Maunde Thompson (Llundain, 1876)

Cefndir

golygu
  • R.R. Davies, The Revolt of Owain Glyndŵr (Rhydychen, 1995)
  • Glanmor Williams, The Welsh Church from Conquest to Reformation (Caerdydd, 1962)

Cyfeiriadau

golygu
  NODES