Afon Spey
Afon yn ne-ddwyrain yr Alban yw Afon Spey (Gaeleg yr Alban: Abhainn Spè neu Uisge Spè). Mae'n tua 107 milltir (172 km) o hyd. Mae'n nodedig am bysgota am eog a chynhyrchu chwisgi.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cyngor yr Ucheldir, Moray |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 57.674187°N 3.098504°W |
Tarddiad | Loch Spey |
Aber | Moryd Moray |
Llednentydd | Afon Calder, Afon Druie, Afon Dulnain, Afon Feshie, Afon Fiddich, Afon Nethy, Afon Tromie, Afon Truim, Afon Avon |
Dalgylch | 3,008 cilometr sgwâr |
Hyd | 172 cilometr |
Arllwysiad | 64 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad |
Llynnoedd | Loch Insh, Spey Dam Reservoir |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Mae'n tarddu ar uchder o dros 1,000 troedfedd (300 m) yn Loch Spey yn Ucheldiroedd yr Alban, tua 10 milltir (16 km) i'r de o Fort Augustus, ac yn llifo i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain. Mae'n llifo trwy trefi Newtonmore a Kingussie, trwy Loch Insh, heibio tref Aviemore, trwy tref Grantown-on-Spey ac ymlaen am 60 milltir (97 km) nes iddi ymuno Môr y Gogledd ym Moryd Moray.
Afonydd Trium, Calder, Tromie, Feshie, Druie, Nethy, Dulnain, Avon a Fiddich yw prif lednentydd Afon Spey.
Oriel
golygu-
Afon Spey yn agos at ei tharddle
-
Pysgota â phlu ger Aberlour
-
Traphont Speymouth, ger aber Afon Spey