Argyfwng bwyd Corn Affrica 2006
Prinder difrifol o fwyd sy'n effeithio pedair o wledydd yng Nghorn Affrica (sef Somalia, Cenia, Jibwti ac Ethiopia) yw argyfwng bwyd Corn Affrica 2006. Amcangyfrifodd Cyfnudrefn Bwyd ac Amaeth (FAO) y Cenhedloedd Unedig ar 6 Ionawr, 2006, gall mwy na 11 miliwn o bobl yn y wledydd yma cael eu effeithio gan newyn eang, wedi ei achosi'n fwyaf gan sychder difrifol, caiff ei waethygu gan wrthdaro milwrol yn yr ardal.[1]
Math o gyfrwng | Newyn |
---|---|
Dyddiad | 2006 |
Achosion
golyguMae'r amodau o sychder, yn ogystal â ffactorau eraill yn cynnwys prisiau grawn uchel, gorboblogi yn yr ardal, a wrthdaro, yn arwain at amodau o newyn. Yn y sychder 2006 cyfredol, mae cyhuddiadau ynglŷn â ffactorau yn trawsffurfio sychder i newyn yn cynnwys gwaharddiad ar mewnforion da byw i farchnadau yng ngwledydd Gwlff Persia, sydd wedi lleihau incwm ffermwyr anifeiliaid, ac felly'n cynyddu anniogelwch bwyd.[2] Mae'r siawns nesaf am cymorth sychder yn Mawrth, efo'r tymor glawog nesaf.
Sefyllfa cyfredol
golyguJibwti
golyguMae Jibwti wedi dioddef o sychder; mae'r FAO yn amcangyfrif fod tua traean o'r boblogaeth (400 000 o bobl) angen cymorth bwyd.[1]
Ethiopia
golyguAmcangyfrifwyd yr FAO mae mwy na un miliwn o bobl[1] yn y Rhanbarth Somali yn Ethiopia yn wynebu diffygion bwyd difrifol. Er mae cnydau ar hyn o bryd yn cael eu cynaeafu, mae prinderau dal i'w ddisgwyl yn ne-ddwyrain y wlad.
Cenia
golyguMae diffyg cnydau, sychder a phrinder da byw wedi arwain i amodau newyn yn Cenia, yn enwedig yn rhanbarthau bugeiliol gogleddol a ddwyreiniol (Mandera, Wajir, a Marsabit).[3] Erbyn 6 Ionawr, 2006, mae tua 30 o marwolaethau wedi gael eu adrodd. Mae rhyw 2.5 miliwn o bobl (10% o'r boblogaeth) angen fwyd dros y chwe mis nesaf. Mae Arlywydd Mwai Kibaki o Cenia wedi ddatgan trychineb cenedlaethol.[4]
Somalia
golyguMae'r sefyllfa yn Somalia yn y gwaethaf o'r pedair wlad. Mae tua dwy filiwn o bobl[1] yn ardaloedd bugeiliol deheuol sydd angen cymorth dyngarol. The lack of a strong central government and poor transportation infrastructure pose problems for the distribution of food aid.[5]
Cymorth
golyguYn Chwefror 2006, rhybuddodd UNICEF fod 1.5 miliwn mewn peryg oherwydd y sychder ac alwodd am USD$16 miliwn i helpu drawsgronni ei gymorth yn yr ardal.[6]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) "Millions of people are on the brink of starvation in the Horn of Africa", Cyfnudrefn Bwyd ac Amaeth (FAO), 6 Ion 2006.
- ↑ (Saesneg) "Pre-famine conditions confront Somali region", Reuters AlertNet.
- ↑ (Saesneg) "Season failure precipitates crisis", Famine Early Warning Systems Network, 28 Rhag 2005.
- ↑ (Saesneg) Food aid theft hurts Kenya's starving millions - Reuters AlertNet
- ↑ (Saesneg) "The dangers of taking food aid to Somalia", BBC News, 3 Mai 2006.
- ↑ (Saesneg) "Unicef Seeks Aid As Millions Suffer in Drought-Hit Horn of Africa", UN News Service, 7 Chwe 2006.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Reuters AlertNet – Horn of Africa food crisis Archifwyd 2006-05-08 yn y Peiriant Wayback