Clwb pêl-droed sy'n chwarae yn Uwchgynghrair Lloegr yw Arsenal Football Club (llysenw: The Gunners), sydd wedi'i leoli yn Stadiwm Emirates, yn Holloway un o faestrefi dinas Llundain sydd tua 3.3 milltir (5.3 km) i'r gogledd o Charing Cross.

Arsenal
Enw llawn Arsenal Football Club
(Clwb Pêl-droed Arsenal)
Llysenw(au) The Gunners
Sefydlwyd 1886 (fel Dial Square)
Maes Stadiwm Emirates, Llundain
Cynghrair Uwchgynghrair Lloegr

Hyd at 2016 roedd y clwb wedi ennill Cwpan Loegr 12 gwaith, uwch adran Lloegr 13 gwaith, Cwpan Cynghrair Lloegr dwyaith, a Tharian Cymuned Lloegr 14 gwaith.

Arsenal oedd y clwb cyntaf yn ne Lloegr i ymuno gyda Cynghrair Pêl-droed Lloegr, a hynny yn 1893. Erbyn 1904 roedden nhw wedi cyrraedd yr adran uchaf (yr adeg honno) sef yr 'Adran Gyntaf' (First Division). Ers hynny, nhw yw'r ail dîm uchaf o ran pwyntiau.[1] Gan ond disgyn o'r adran uchaf unwaith yn unig, ym 1913, maent yn parhau â'r rhediad hiraf yn yr adran uchaf.[2] Yn y 1930au roedd Arsenal yn bencampwyr yr uwch adran ar bum achlysur, ac ennillon nhw Gwpan Lloegr ddwywaith. Wedi'r Ail Ryfel Byd fe enillon nhw un Gwpan Lloegr arall a dau Bencampwriaeth. Yn 1970–71 fe enillon nhw'r Dwbwl cyntaf: y gynghrair a Chwpan Lloegr yn yr un tymor. Rhwng 1988 a 2005 fe enillon nhw'r gynghrair bum gwaith a Chwpan Lloegr bum gwaith - gan gynnwys y Dwbwl ddwywaith. Ar ddiwedd 20g nhw oedd deiliaid y safle uchaf o ran cyfartaledd safleoedd cynghrair.[3]

Panorama o Stadiwm Emirates

Cyfeiriadau

golygu
  1. "English Premier League : Full All Time Table". statto.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-10. Cyrchwyd 21 Ionawr 2016.
  2. Ross, James; Heneghan, Michael; Orford, Stuart; Culliton, Eoin (23 Mehefin 2016). "English Clubs Divisional Movements 1888-2016" [Symidiad clwbiau adrannol Saeson 1888-2016]. www.rsssf.com. Rec.Sport.Soccer Statistics Foundation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-05. Cyrchwyd 5 Awst 2016. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  3. Hodgson, Guy (17 December 1999). "Football: How consistency and caution made Arsenal England's greatest". The Independent (yn Saesneg). London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mawrth 2016. Cyrchwyd 13 Mai 2016.
  NODES
os 4