Asid organig gyda'r grŵp carbocsyl a'r fformiwla gemegol: R-C(=O)OH, a fynegir fel arfer fel R-COOH neu R-CO2H [1] yw asid carbocsylig. Mae asidau carbocsylig yn asidau sy'n ffitio diffiniad Damcaniaeth Brønsted-Lowry; maent yn rhyddhau protonau. Mae halenau ac anionau asidau carbocsylig yn cael eu galw'n "carbocsyladau". Rhain yw'r asidau organig cryfaf o ganlyniad i sefydlogrwydd yr anion carbocsylad lle mae'r electronau (ac felly'r wefr negyddol) yn cael eu dadleoli rhwng y ddau atom ocsigen electronegyddol. Mae asidau carbocsylig mewn hydoddiant dyfrllyd felly'n sefydlu'r ecwilibriwm canlynol:

Asid carbocsylig
Enghraifft o'r canlynoldosbarth strwythurol cyfansoddion cemegol Edit this on Wikidata
Mathcarbon oxoacid, organic acid, carbonyl compound Edit this on Wikidata
Rhan oATPase-coupled carboxylic acid transmembrane transporter activity, carboxylic acid transmembrane transporter activity, carboxylic acid transmembrane transport Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscarboxyl, carboacyl group Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Strwythur asid carbocsylic
Strwythur yr anion carbocsylad gyda'r electronau dadleoledig.

R-COOH + H2O ⇌ R-COO- + H3O+

Yr asidau carbocsylig symlaf yw'r asidau alcanoig, R-COOH, lle mae R yn cynrychioli hydrogen neu grŵp alcyl.

Enghreifftiai cyffredin

golygu
Enw R Mr pKa Enghraifft

ffynhonnell naturiol

Monogarbocsylig
Fformig H 46.03 3.77 Pigiad morgrug a danadl poethion
Asetig CH3 60.05 4.76 Finegr
Propionig CH3CH2 74.08 4.88 Caws a chwys
Bwtyrig CH3CH2CH2 88.11 4.82 Menyn, Llaeth, Chwŷd
Deugarbocsylig
Ocsalig 90.03 1.25,4.14 Suran y coed, Riwbob
Trigarbocsylig
Sitrig 192.12 3.13,4.76,6.39 Ffrwyth sitrws

Cyfeiriadau

golygu
  1. Compendium of Chemical Terminology, carboxylic acids

Dolenni allanol

golygu
  NODES