Auckland
Dinas fwyaf Seland Newydd yw Auckland (Maori: Tāmaki-makau-rau).
Math | dinas, dinas â phorthladd, y ddinas fwyaf, dinas global, metropolis |
---|---|
Enwyd ar ôl | George Eden |
Poblogaeth | 1,470,100 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+12:00, UTC+13:00 |
Gefeilldref/i | Guangzhou, Los Angeles, Brisbane, Busan, Fukuoka, Hamburg, Gaillimh, 臺中市, Pohang, Nadi, Utsunomiya, Shinagawa-ku, Kakogawa, Tomioka, Qingdao, Ningbo, Concepción, Ynysoedd Cook, Samoa, Tonga |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Auckland Region |
Gwlad | Seland Newydd |
Arwynebedd | 559 ±1 km² |
Uwch y môr | 196 metr |
Gerllaw | Waitematā Harbour, Manukau Harbour, Hauraki Gulf / Tīkapa Moana |
Cyfesurynnau | 36.8492°S 174.7653°E |
Cod post | 0600–2699 |
Auckland Tāmaki Makaurau (Maori) | |
---|---|
| |
Gwlad | Seland Newydd |
Ynys | Ynys y Gogledd |
Ardal | Ardal Auckland |
Awdurdodau Tiriogaethol Seland Newydd | Cyngor Auckland |
Sefydlwyd gan y Māori | c. 1350 |
Sefydliad Ewropeaidd | 1840 |
Byrddau Lleol | |
Arwynebedd | |
• Trefol | 482.9 km2 (186.4 mi sg) |
• Metro | 559.2 km2 (215.9 mi sg) |
Poblogaeth (June 2011 estimate) | |
• Dinesig | 1,377,200 |
• Metro | 1,486,000 |
• Demonym | Aucklander, Jafa |
Parth amser | NZST (UTC+12) |
• Summer (DST) | NZDT (UTC+13) |
Codau Post | 0500-2999 |
Cod ffôn | 09 |
Local iwi | Ngāti Whātua, Tainui |
Website | www.aucklandcouncil.govt.nz |
Lleoliad
golyguFe'i lleolir ar Ynys y Gogledd, ac yn gorwedd rhwng Harbwr Manukau ar Fôr Tasman a Harbwr Waitemata ar y Môr Tawel. Mae tua 50 o losgfynyddoedd yn ardal Auckland. Ffurfiwyd Ynys Rangitoto, yr un diweddaraf, tua 700 mlynedd yn ôl, a dinistriwyd yr anheddiad Maori ar Ynys Mototapu.
Hanes
golyguDaeth y Maori i Auckland tua 650 mlynedd yn ôl, ac yn aml, sefydlwyd caerau gan y Maori ar ben yr hen losgfynyddoedd, megis Mynydd Eden ac One Tree Hill. Un o'r enwau Maori yr ardal yw Tamaki herenga waka', sy'n golygu 'gorffwysfan llawer o gychod'; harbwr diogel ar eu cyfer nhw.
Ym 1642, darganfuwyd Seland Newydd gan Abel Tasman ac ym 1769, cyrhaeddodd James Cook i fapio'r arfordir. Erbyn 1840 roedd Prydeinwyr wedi cyrraedd; llofnodwyd Cytundeb Waitangi rhyngddynt a'r Maori ar 6ed Chwefror, 1840. Dewisodd William Hobson, rhaglaw cyntaf Seland Newydd Auckland fel prifddinas. Dewisodd Hobson yr enw Auckland, enw ei gyn-gadlywydd, Yr Arglwydd Auckland, rhaglaw India ar adeg honno. Enw teuluol yr arglwydd oedd Eden, enw arall sy'n ymddangos yn yr ardal. Erbyn 1843 roedd gan Auckland dros 3000 o drigolion, ac erbyn diwedd yr 1860au, roedd 12,000 ohonynt.
Prif ardal fasnachol y dref wreiddiol oedd Commercial Bay, rhwng Point Britomart a'r esgair lle mae Heol Swanson heddiw. Gerllaw, i'r gorllewin, roedd Official Bay, lle roedd swyddogion y llywodraeth yn byw. Mechanics Bay oedd yr un nesaf i'r gorllewin, oherwydd gwaith ei drigolion.
Erbyn yr 1890s, clywyd llawer o ieithoedd ar y strydoedd llawn bobl o Ewrop, Tsieina ac India, heb sôn am bobl Maori oedd wedi cyrraedd o ardaloedd gwledig.
Heddiw
golyguErbyn heddiw, Auckland yw'r ddinas Polynesaidd fwyaf y byd. Mae 63% o'i thrigolion o dras Ewropiaidd, 11% Maori, 13% o ynysoedd y Môr Tawel a 12% o Asia. Roedd gan y ddinas 1,377,200 o drigolion yn 2011, sy'n 31 y cant o boblogaeth y wlad.
Cludiant
golyguMae gan Auckland rwydwaith o reilffyrdd a bysiau ar gyfer cludiant lleol. Trydanir y rheilffyrdd lleol ar hyn o bryd. Does ond un trên bellter hir yn gadael Auckland, sef yr Overlander, sy'n mynd i Wellington. Ffocws cludiant cyhoeddus y ddinas – bysiau a rheilffyrdd - yw Canolfan Cludiant Britomart.
Mae Sealink yn cynnig fferi i Ynys Waiheke ac Ynys Great Barrier, ynysoedd mwyaf Gwlff Hauraki. Mae cwmni Fullers hefyd yn cynnig fferi – yn gadael cei o flaen Canolfan Britomart - i Ynysoedd Waiheke a Great Barrier, ac yn mynd ar draws yr harbwr i Devonport, ac i Ynys Rangitoto ac Ynys Motutapu.
Mae gan Auckland maes awyr rhyngwladol, yr un prysuraf yn Seland Newydd, 21 cilomedr i'r de o ganol y ddinas. Côd y maes awyr yw AKL.[1]
Atyniadau
golygu- Auckland Domain: Parc mawr ynghanol y ddinas, sy'n cynnwys Y Winter Gardens ac Amgueddfa Auckland.
- Neuadd y Dref: Adeiladwyd ym 1911, yn cynnwys neuadd gyngerdd bwysig.
- Parc Eden: prif stadiwm chwaraeon y ddinas.
- Pentref Parnell:yn agos i'r Domain, yn cynnwys tai, eglwys a mynwent yn dyddio o sefydliad y dref wreiddiol.
- Pont Harbwr: yn cysylltu canol Auckland efo gogledd y ddinas dros y bae.
- Harbwr Viaduct: yn cynnwys harbwr, tai bwyta, dwy amgueddfa forwrol, gwestai a chanolfan ddigwyddiadau.
'City of Sails'
golyguHawlir bod gan Auckland mwy o gychod y pen nac unrhyw ddinas arall yn y byd.