Ffurf lenyddol yw'r ysgrif. Mae'n cyfateb i "Belle-Lettres" mewn ieithoedd eraill, ond bod defnydd o'r gair hefyd yn awgrymu traethodau. Mae'r ffurf yn dra llenyddol gyda Myfyrdodau a Synfyfyrion T. H. Parry-Williams fel yr enghreifftiau gorau o'r genre yma yn y Gymraeg.

Dyma a ddywed Lleufer[1]:

Dr. T. H. Parry-Williams a ddug yr ysgrif fel ffurf lenyddol ysblennydd i'r Gymraeg. Ef o hyd yw ei meistr dihefelydd. Bu iddo lawer o ddisgyblion, a rhai ohonynt yn grefftwyr nid annheilwng, eithr ni pheryglwyd ei ben-arglwyddiaeth eto gan neb.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Lleufer - Cyf. 1, rh. 2 1944; Adolygiad o Wrth y tân, Yma ac acw a Ceulan y Llyn Du gan E. Morgan Humphreys. Llyfrau Pawb. Gwasg Gee, Dinbych; Gweler [1] Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Chwiliwch am ysgrif
yn Wiciadur.
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  NODES