Baner Gini Gyhydeddol

Baner drilliw lorweddol gyda thriongl glas yn y hoist yw baner Gini Gyhydeddol. Mae ganddi stribed uwch gwyrdd i gynrychioli tiroedd amaethyddol y wlad, stribed is coch i symboleiddio annibyniaeth, a stribed canol gwyn, i symboleiddio heddwch, gydag arfbais Gini Gyhydeddol yn ei ganol. Mae glas y triongl yn cynrychioli'r môr. Mabwysiadwyd ar 12 Hydref 1968, y diwrnod enillodd y wlad annibyniaeth ar Sbaen.

Baner Gini Gyhydeddol

O dan lywodraeth Francisco Nguema o 1972 i 1979, ymddangosodd arwyddlun cenedlaethol gwahanol ar y faner. Adferwyd yr arfbais wreiddiol wedi i Nguema gael ei ddymchwel o rym yn Awst 1979.

Ffynonellau

golygu
  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
  NODES