Barack Obama

44ain arlywydd Unol Daleithiau America

Barack Hussein Obama II oedd 44ain Arlywydd yr Unol Daleithiau. Mae'n aelod o'r blaid Ddemocraidd. Roedd Obama yn Seneddwr Illinois o 2004 hyd 2008. Cafodd ei ethol yn etholiad arlywyddol Tachwedd 2008 yn erbyn John McCain. Roedd Oprah Winfrey a Ted Kennedy yn ei gefnogi. Ar 6 Tachwedd 2012 trechodd y Gweriniaethwr Mitt Romney a sicrhaodd ail dymor fel Arlywydd.[1]

Barack Obama
Barack Obama


Cyfnod yn y swydd
20 Ionawr 2009 – 20 Ionawr 2017
Is-Arlywydd(ion)   Joe Biden
Rhagflaenydd George W. Bush
Olynydd Donald Trump

Cyfnod yn y swydd
3 Ionawr 2005 – 16 Tachwedd 2008
Rhagflaenydd Peter Fitzgerald
Olynydd Roland Burris

Aelod o Senedd (13ydd ardal)  Illinois
Cyfnod yn y swydd
8 Ionawr 1997 – 4 Tachwedd 2004
Rhagflaenydd Alice Palmer
Olynydd Kwame Raoul

Geni (1961-08-04) 4 Awst 1961 (63 oed)
Honolulu, Hawaii, UDA
Plaid wleidyddol Democratwr
Cartref Kenwood, Chicago, Illinois
Alma mater Prifysgol Columbia
Ysgol y Gyfraith Harvard
Galwedigaeth Cyfreithiwr
Gwleidydd
Crefydd United Church of Christ
Gwefan Obama-Biden Transition Team
Llofnod

Ef ydy'r Americanwr Affricanaidd cyntaf i gael ei ethol yn Arlywydd yr Unol Daleithiau. Graddiodd ym Mhrifysgol Columbia a Phrifysgol y Gyfraith, Harvard. Ar ôl cyhoeddi ei fod am sefyll am yr arlywyddiaeth yn Chwefror 2007, cyhoeddodd hefyd ei ddymuniad i weld milwyr ei wlad yn tynnu allan o Irac a chau carchar milwrol Bae Guantanamo.

Ei Hanes Cynnar

golygu

Ganwyd Obama ar 4 Awst 1961 yn Honolulu, Hawaii; yn fab i Barack Obama, Senior, aelod o grŵp ethnig y Luo o Nyang’oma Kogelo yn Cenia ac Ann Dunham, Americanes croen wyn o Wichita, Kansas. Cyfarfu ei rieni tra roeddent ym Mhrifysgol Hawaii.[2] Gwahanodd y ddau pan oedd Obama yn ddwy oed.[3] Dychwelodd tad Obama i Affrica, lle bu farw mewn damwain car yn 1982. Ailbriododd ei fam gyda dyn o'r enw Lolo Setoro, a symudodd y teulu i'w wlad enedigol ef, sef Indonesia, yn 1967. Yno, yn Jakarta, yr aeth Obama i'r ysgol gynradd nes iddo droi'n ddeg oed.[4] Dychwelodd yr adeg hynny i Honolulu i fyw gyda'i daid a'i nain er mwyn mynychu Ysgol Punahou, gadawodd yr ysgol uwchradd honno yn 1979. Bu farw ei fam o gancr yn 1995.[5] Aeth i'r 'Occidental College' yn Los Angeles am ddwy flynedd ac yna i Brifysgol Columbia.

Gwaith

golygu

Gweithiodd yn Efrog Newydd a Chicago am rai blynyddoedd. Dychwelodd i Cenia, am gyfnod o bum wythnos yn 1988, i weld rhai o'i berthnasau.[6] Hefyd:

  • Gwaith cymdeithasol
  • Dychwelodd i Brifysgol y Gyfraith, Harvard (1988-1991)
  • Llywydd llawn amser yr Havard Law Review 1991
  • Gweithio i gyfreithwyr yn Chicago: Sidley & Austin yn 1989 a Hopkins & Sutter yn 1990
  • Sgwennu llyfr am hiliaeth: Dreams from My Father
  • Cyfarwyddwr Illinois Project Vote rhwng Ebrill a Hydref 1992
  • Darlithio am ddeuddeg mlynedd yn Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Chicago; hyd at 2004
  • Cyfreithiwr gyda chwmni Davis, Miner, Barnhill & Galland hyd at 2004
  • Ar fwrdd Cyfarwyddo nifer o gwmnïau megis y Woods Fund of Chicago ar yr un pryd.

Y Gwleidydd

golygu

Cafodd Obama ei ethol i Senedd Illinois yn 1996 gan ganolbwyntio ei bolisiau ar bobl tlawd, hawliau sifil, lleihau'r dreth a chodi budd-daliadau plant. Cafodd ei ail-ethol i'r un sedd yn 1998, ac eto yn 2002. Ym mis Tachwedd 2004, cafodd ei ethol i Senedd yr Unol Daleithiau.

Polisïau

golygu

Israel a'r Palesteiniaid

golygu

Mae cael cefnogaeth y lobi Seionaidd dylanwadol AIPAC yn hanfodol i ymgeiswyr am arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau. Traddododd Obama araith yng Nghynhadledd Flynyddol AIPAC 2008. Yn ogystal ag addo cefnogi Israel, fel sy'n arferol gan wleidyddion UDA, datganodd fod Jeriwsalem yn "brifddinas Israel am byth", gan fynd yn erbyn un o brif hawliau'r Palesteiniaid sef bod Dwyrain Jeriwsalem a Mosg Al-Aqsa yn perthyn iddyn nhw.[7] Datganodd: "Our alliance is based on shared interests and shared values. Those who threaten Israel threaten us. And I will bring to the Whitehouse an unshakeable commitment to Israel's security... I will ensure that Israel can defend itself from any threat - from Gaza to Tehran."[8]

Yn ei ddatganiadau polisi ar y cyd â Joe Biden ar gyfer yr etholiad, gwnaeth Obama dri phwynt am ei bolisi tuag at Israel:[9]

  1. Sicrhau partneriaeth gref rhwng Israel ac UDA. Dywedodd, "our first and incontrovertible commitment in the Middle East must be to the security of Israel, America's strongest ally in the Middle East."
  2. Cefnogi "hawl Israel i amddiffyn ei hun" gan gyfeirio at y gefnogaeth lwyr a roddodd i Israel yn Rhyfel Libanus 2006.
  3. Cefnogi Cymorth Tramor i Israel. Dywedodd ei fod yn cefnogi ac amddiffyn y pecyn cymorth tramor blynyddol i Israel, sy'n cynnwys cymorth milwrol ac economaidd. Cofnododd hefyd fod ef a Biden wedi galw am gynyddu cyllidau cymorth tramor "to ensure that these funding priorities are met." Roedd wedi galw am barhau cydweithio milwrol ag Israel, e.e. i ddatblygu systemau taflegrau amddiffynnol. Mae hyn yn adlewyrchu ei ddatganiadau cryf o blaid cydweithio'n filwrol ag Israel yn y gorffennol, e.e. yng Nghynghadledd AIPAC yn Ebrill 2008: "Defense cooperation between Israel and the United States is a model of success, and must be deepened. As president, I will implement a Memorandum of Understanding that provides $30 billion (£30,000 miliwn) of assistance to Israel over the next decade, investments to Israel's security that will not be tied to any other nation." Ychwanegodd "We should export military equipment to our ally Israel under the same guidelines as NATO."[8]

Cafodd Obama ei feirniadu'n hallt gan sylwebwyr yn y Dwyrain Canol a'r byd Islamaidd am beidio â dweud dim am ddioddefiant y Palesteiniaid yn Gaza. Yn ei araith agoriadol fel Arlywydd ar 20 Ionawr 2009, ni chyfeiriodd at y sefyllfa yn Gaza o gwbl.

Llinach Gymreig

golygu

Llinach Gymreig Barack Hussein Obama. Cyfeiriadaeth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Barack Hussein OBAMA
1961 -
Honolulu, Hawaii
Michelle La Vaughn ROBINSON
1964 -
Chicago
Barack Hussein OBAMA
1936 - 1982
Alego, Cenia
(Stanley) Ann DUNHAM
1942 - 1995
Wichita, Kansas
Stanley Armour DUNHAM
1918 - 1992
Wichita, Kansas
Madelyn Lee PAYNE
1922- 1908
Peru, Kansas
Rolla Charles PAYNE
1892 - 1968
Olathe, Kansas
Leona MCCURRY
1897 - 1968
Peru, Kansas
Charles Thomas PAYNE
1861 - 1940
Missouri
Della WOLFLEY
1863 - 1906
Ohio
Robert WOLFLEY
1834 - 1895
Ohio
Rachel ABBOTT
1835 - 1911
Licking, Ohio
George WOLFLEY
1807 - 1879
Dauphin, Pennsylvania
Nancy PERRY
1812 - 1894
Radnor, Ohio
Robert PERRY
1786 - 1852
Ynys Môn, Cymru
Sarah Ellen HOSKINS
1788 - 1859
Virginia
Henry PERRY
1759 -
Ynys Môn, Cymru
Margaret
- 1831
Ynys Môn, Cymru
Richard HOSKINS
1761 - 1834
Ynys Môn, Cymru
Jane
1762 - 1835
?

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Obama projected to win Ohio, will win re-election". CBS News. November 6, 2012. Cyrchwyd Tachwedd 6, 2012.[dolen farw]
  2. Obama (1995), tt. 9–10. "Barack Obama: Creation of Tales", East African (1 Tachwedd 2004).
  3. Obama (1995), tt. 125–126. Gweler hefyd: Jones, Tim (27 Mawrth 2007). "Obama's Mom: Not Just a Girl from Kansas", Chicago Tribune.
  4. Serafin, Peter (21 Mawrth 2004). "Punahou Grad Stirs Up Illinois Politics", Honolulu Star-Bulletin.
  5. Ripley, Amanda (Ebrill 9, 2008). "The Story of Barack Obama's Mother", Time.
  6. Obama (1995), tt. 299–437
  7. "Obama, Israel and AIPAC" Archifwyd 2008-12-25 yn y Peiriant Wayback, erthygl gan Uri Avnery ar Counterpunch.
  8. 8.0 8.1  Israel Fact Sheet. Barack Obama.
  9. "Datganiadau Polisi Tramor Obama a Biden". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-24. Cyrchwyd 2009-02-02.

Dolenni allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
 
Wikiquote
Mae gan Wiciddyfynu gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i:
Cyngres yr Unol Daleithiau
Rhagflaenydd:
Peter Fitzgerald
Seneddwr dros Illinois
gyda Richard Durbin

20052008
Olynydd:
Roland Burris
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
George W. Bush
Arlywydd Unol Daleithiau America
20092017
Olynydd:
Donald Trump
Swyddi gwleidyddol pleidiol
Rhagflaenydd:
John Kerry
Ymgeisydd Arlywyddol y Blaid Democrataidd
2008 (ennill), 2012 (ennill)
Olynydd:
Hillary Clinton
  NODES
Done 2
eth 25
News 1
see 1
Story 1