Bargod

tref fechan yng Nghaerffili

Tref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Caerffili, Cymru, yw Bargod[1][2][3] (hefyd Bargoed). Saif ar lan afon Rhymni i'r gogledd o dref Caerffili.

Bargoed
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth11,900, 11,864 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerffili Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd714.49 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.685102°N 3.229659°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000728 Edit this on Wikidata
Cod OSST145995 Edit this on Wikidata
Cod postCF81 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruHefin David (Llafur)
AS/au y DUNick Smith (Llafur)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Mae marchnad wythnosol yn y dre. Mae Caerdydd 23.3 km i ffwrdd o Bargoed ac mae Llundain yn 217.7 km. Y ddinas agosaf ydy Casnewydd sy'n 20.2 km i ffwrdd.

Yn wreiddiol roedd yn dref farchnad wledig, ond tyfodd i fod yn dref sylweddol yn dilyn agor pwll glo yn 1903. Caeodd y pwll glo yn ystod y 1980au, ac mae'r safle nawr yn gartref i barc gwledig.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hefin David (Llafur)[4] ac yn Senedd y DU gan Nick Smith (Llafur).[5]

Tarddiad yr enw

golygu

Fe'i ceir yn gyntaf, wedi'i ysgrifennu, yn 1799, felly bathiad cymharol ddiweddar ydyw. Mae'n tarddu o enw'r nant "Nant Bargod Rhymni" sy'n llifo i lawr Mynydd y Fochriw i afon Rhymni yn Aberbargoed (Aber Bargoed oedd ffurf 1578). Mae enw'r nant, fodd bynnag, yn llawer hŷn; fe'i gwelir gyntaf yn 1170 "Bargau Remni". Roedd y nant yn ffin naturiol rhwng tiroedd brithdir a Senghennydd Uwch Caeach. Gyda thwf diwydiant 19eg ganrif, galwyd y tir ar yr ochor ddwyreiniol yn Aberbargoed (Aberbargod, 1729), Pontaber Bargoed yn 1794). Galwyd yr ochor orllewinol yn Bargoed. Bargod, felly, oedd y ffurf gynharaf, a hynny'n golygu "ffin". Newidiwyd yr enw, mae'n debyg, oherwydd dylanwad llefydd cyfagos megis Penycoed ac Argoed.[6]

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9][10]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Bargod (pob oed) (11,900)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Bargod) (1,143)
  
10%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Bargod) (10874)
  
91.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Bargod) (2,246)
  
44.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwyddoniadur Cymru; Gwasg y Brifysgol; cyhoeddwyd 2008; tud 67
  2. Gwefan Enwau Cymru (Canolfan Bedwyr Archifwyd 2013-09-27 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 17 Mehefin 2013
  3. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  4. Gwefan Senedd Cymru
  5. Gwefan Senedd y DU
  6. Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Gwasg Gomer, 2007)
  7. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  9. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  10. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
  NODES
eth 14