Mae talaith Basra, neu talaith Al-Basrah, yn dalaith yn ne Irac, gyda arwynebedd tir o 19070 km sgwar a phoblogaeth o tua 2,600,000 (amcangyfrif 2003). Ei phrifddinas yw Basra, dinas ail fwyaf y wlad; mae dinasoedd mawr eraill yn cynnwys Corna, Az Zubayr, Umm Qasr ac Abu Al Khaseeb. Mae'r dalaith yn ffinio â Kuwait i'r de ac Iran i'r dwyrain.

Basra
MathTaleithiau Irac Edit this on Wikidata
PrifddinasBasra Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,405,434 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirIrac Edit this on Wikidata
GwladBaner Irac Irac
Arwynebedd19,070 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaDhi Qar Governorate, Al Jahra Governorate Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau30.37°N 47.37°E Edit this on Wikidata
IQ-BA Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Talaith Basra yn Irac

Mae'r mwyafrif llethol o'r trigolion yn Fwslemiaid Shia Arabaidd.

Daearyddiaeth

golygu

Mae talaith Basra yn gorwedd ar Y Gwlff lle ceir stribyn o arfordir cul rhwng Ciwait ac Iran; Umm Qasr yw'r prif borthladd. Yng ngogledd y dalaith mae afonydd Ewffrates a Tigris yn uno i ffyrfio'r Shatt al-Arab. Mae'r corsdir o'i gwmpas yn gartref i Arabiaid y Corsdir ers canrifoedd lawer.

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf

golygu

Yn hanesyddol, dan Ymerodraeth yr Otomaniaid, roedd talaith Basra yn cynnwys tiriogaeth gwladwriaeth bresennol Kuwait (nad oedd ond tref fechan ddinod ar y pryd). Ar ôl dwyn y diriogaeth oddi ar yr Ottomaniaid yn sgîl y Rhyfel Byd Cyntaf, cyfunodd Prydain hen daleithiau Ottomanaidd (vilayets) Basra, Baghdad a Mosul i ffurfio gwladwriaeth newydd Irac, a reolwyd gan Brydain trwy fandad Cynghrair y Cenhedloedd. Roedd Ciwait eisoes wedi dod yn protectorate dan Brydain yn fuan cyn i'r Rhyfel Byd Cyntaf dorri allan.

Ar ôl cwymp y llywodraeth Ba'ath

golygu

Talaith Basra yw'r rhan o Irac a roddwyd i luoedd milwrol Prydain oresgyn a rheoli yn Rhyfel Irac. Hyd yn hyn mae dros 160 o filwyr Prydeinig wedi coll eu bywydau yn y dalaith.

Mae cynnig i uno Basra â'r taleithiau cyfagos Dhi Qar a Maysan i ffurfio talaith dde-ddwyreiniol mewn ffederaliaeth Iracaidd newydd yn cael ei drafod ers 2005.

Taleithiau Irac  
Al-Anbar | Arbīl | Bābil | Baghdād | Al-Basrah | Dahūk | Dhī Qār | Diyālā | Al-Karbalā' | Kirkuk (At-Ta'mim) | Maysān | Al-Muthannā | An-Najaf | Nīnawā | Al-Qādisiyyah | Salāh ad-Dīn | As-Sulaymāniyyah | Wāsit
  NODES
os 4