Beddargraff
Ysgrifen ar gofadail neu fedd i goffhau'r ymadawedig yw beddargraff neu epitaph.
Math o gyfrwng | dosbarth llenyddol, type of inscription |
---|---|
Math | funeral inscription |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gall beddargraffau fod yn llenyddiaeth uchel. Un o gerddi enwocaf y bardd Simonides oedd ei epitaph i'r Groegiaid a syrthiasai ym Mrwydr Marathon. Fe roddwyd ar feddrod y rhyfelwyr ym Marathon:
- Ελλήνων προμαχούντες Αθηναίοι Μαραθώνι
- χρυσοφόρων Μήδων εστόρεσαν δύναμιν
- (Yr Atheniaid, amddiffynwyr y Groegiaid, ym Marathon
- a ddinistriodd rym y Mediaid eurwisg)
Yng Nghymru un o'r hoff ffurfiau llenyddol ar gyfer beddargraffau yw'r englyn coffa.