Brwydr Culloden
Ymladdwyd Brwydr Culloden (Gaeleg: Blàr Chùil Lodair) ar 16 Ebrill, 1746, rhwng byddin y Jacobitiaid dan Charles Edward Stuart a byddin y llywodraeth Hanoferaidd dan William Augustus, Dug Cumberland, mab Siôr II, brenin Prydain Fawr.
Math o gyfrwng | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 27 Ebrill 1746 |
Rhan o | Gwrthryfeloedd Iacobitaidd |
Lleoliad | Culloden |
Gwladwriaeth | Teyrnas Prydain Fawr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cefndir
golyguAr 23 Gorffennaf, 1745, glaniodd Charles a saith cydymaith yn Eriskay yn Ucheldiroedd yr Alban, i gefnogi hawl ei dad i'r orsedd. Cododd faner ei dad yn Glenfinnan, a llwyddodd i godi digon o ddilynwyr i ymdeithio tua dinas Caeredin. Ar 21 Medi 1745, gorchfygodd fyddin y llywodraeth ym Mrwydr Prestonpans, ac erbyn Tachwedd roedd ganddo fyddin o 6,000. Ymdeithiodd tua'r de, gan anelu am Lundain, a chyrhaeddodd cyn belled a Derby. Yma, oherwydd diffyg cefnofaeth gan Jacobitiaid Lloegr, penderfynwyd troi'n ôl am yr Alban. Dilynwyd ef gan fyddin y llywodraeth dan William Augustus, Dug Cumberland.
Y frwydr a'i ganlyniadau
golyguYmladdwyd y frwydr gerllaw pentref Culloden, heb fod ymhell o Inverness yn Ucheldiroedd yr Alban. O Ucheldiroedd yr Alban y deuai'r rhan fwyaf o fyddin y Jacobitiaid, tra'r oedd y fyddin Hannoferaidd yn cynnwys catrodau o Loger ac Iseldiroedd yr Alban. Yn rhannol oherwydd i Charles fynnu ymosod pan oedd ei filwyr dan anfantais, gorchfygwyd y Jacobitiaid yn llwyr. Bu Charles ar ffô yn Ucheldiroedd yr Alban am fisoedd cyn medru dychwelyd i Ffrainc ym mis Medi. Bu fyw yn Ffrainc a'r Eidal hyd ei farwolaeth.
Yn dilyn y frwydr, lladdwyd llawer o'r Ucheldirwyr gan fyddin Cumberland, ac enillodd ef yr enw "Butcher Cumberland". Pasiwyd deddfau i ddinistrio trefn gymdeithasol yr Ucheldiroedd, ac i wahardd eu gwisg draddodiadol. Dilynwyd hyn yn ddiweddarach gan broses Clirio'r Ucheldiroedd.
Ffuglen
golyguMae'r nofel Pen yr Yrfa (nofel fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1931) gan Morris Thomas yn dilyn hynt a helynt Cymry Jacobinaidd o Wynedd ac yn cynnwys disgrifiad o Frwydr Culloden.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Prebble, John, Culloden, Atheneum 1962
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Morris Thomas, Pen yr Yrfa (Caernarfon, 1931).