Burum
am band jazz, Burum ewch yma: Burum
Enghraifft o'r canlynol | cynhwysyn bwyd, organebau yn ôl enw cyffredin |
---|---|
Math | ffwng, Lefain |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gall y term burum gyfeirio at unrhyw ffwng, ni waeth beth yw ei ddosbarthiad, sy'n bodoli fel celloedd unigol yn hytrach na hyffae. Mae'n ymddangos ei fod yn ffurf o dyfiant sy’n arbennig o addas ar gyfer cyfryngau hylifol (o'i gymharu â hyffae). Mae'r celloedd hyn yn atgynhyrchu drwy flaguro. Asgomysetau yw'r burumau mwyaf nodweddiadol, gan gynnwys y burum sych Saccharomyces cerevisiae a ddefnyddir mewn bragu a phobi, ond gall y ffurf furum hefyd ddigwydd mewn ffyngau eraill pan fyddant yn cael eu tyfu mewn cyfrwng hylifol siwgraidd.