Cantref Selyf (weithiau Cantrefselyf) oedd un o dri chantref Brycheiniog yn yr Oesoedd Canol. Gorweddai i'r gogledd o afon Wysg gyda Mynydd Epynt yn gadarnle yn ei ganol.

Ffiniai Cantref Selyf, ym Mrycheiniog ei hun, â'r Cantref Mawr (cantref Tewdos) i'r de a'r trydydd gantref, a elwir weithiau'n Bencelli, i'r de-ddwyrain. I'r gorllewin ffiniai ag Ystrad Tywi ac i'r gogledd ag Elfael a Buellt.

Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol rhanwyd y cantref yn ddau gwmwd, yn ôl y rhestr o gantrefi a chymydau yn Llyfr Coch Hergest, sef :

Talgarth ac i raddau llai Brwynllys oedd prif ganolfannau'r cantref.

Gweler hefyd

golygu
     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  NODES
languages 1
os 2