Casnewydd

dinas yng Nghymru

Trydedd ddinas fwyaf Cymru, a thref fwyaf yr hen Sir Fynwy a'r sir defodol Gwent yw Casnewydd, neu Casnewydd-ar-Wysg (Saesneg Newport). Er ei bod yn rhan hanesyddol o Sir Fynwy, heddiw gweinyddir y ddinas gan gyngor dinas fel awdurdod unedol. Y ddinas agosaf ydy Caerdydd, sydd bron i 12m i ffwrdd.

Casnewydd
Mathdinas, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth159,600 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserGMT Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Kutaisi, Annapolis, Guangxi, Heidenheim an der Brenz Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSir Fynwy Edit this on Wikidata
SirCymru, Casnewydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd73.35 mi² Edit this on Wikidata
GerllawAfon Wysg, Afon Ebwy Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.5886°N 2.9978°W Edit this on Wikidata
Cod postNP Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Mae'r chwedl yn disgrifio Gwynllyw, tywysog De Cymru, yn sefydlu'r dre ar ôl cyfarfod ag ych hudol.

Ymwelodd Gerallt Gymro â Chasnewydd yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.

Ar 4 Mawrth 1839, arweiniodd John Frost, Zephaniah Williams a William Jones orymdaith o tua 3,000 o Siartwyr i Gasnewydd, gan geisio rhyddhau Siartwyr oedd wedi eu carcharu yn y Westgate Hotel. Daeth dilynwyr Frost o'r Coed Duon, dilynwyr Williams o Lyn Ebwy a chriw Jones o Bont-y-pŵl. Roedd llawer o golofnau'r sefydliad yn y gwesty ynghyd â 60 o filwyr arfog. Taniwyd at y 'mob' gan filwyr Lloegr y tu allan i westy'r Westgate am tua 25 munud o gythrwfl, a bu farw 22 o bobl ac anafwyd dros hanner cant.

Rhoddwyd John Frost, William Jones a Zephaniah Williams ar eu prawf, eu cael yn euog a'u dedfrydu i gael eu crogi a'u chwarteru.[1] Wedi protest gyhoeddus, newidiwyd y ddedfryd i alltudiaeth, ac aed â hwy i Van Diemen's Land (Tasmania heddiw). Yn ôl rhai haneswyr, dyma wrthryfel mwyaf a chryfaf gwledydd Prydain yn ystod y 19eg ganrif.[2]

Economi

golygu

Yn hanesyddol diwydiant trwm, yn enwedig cynhyrchu dur, oedd sail economi Casnewydd. Tyfodd y dref[3] yn gyflym yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, ac erbyn hanner cyntaf y 19g Casnewydd oedd brif dref y De gyda mwy o gyfoeth na Chaerdydd ac Abertawe gyda'i gilydd. Ar ôl eu gorffen, Dociau'r Hen Dref oedd y dociau mwyaf yn Ewrop yn anterth y diwydiant llongau. Yn y cyfnod ôl-ddiwydiannol mae'r ddinas wedi teimlo ergydion cau a lleihau'r gweithlu mewn gweithfeydd diwydiannol.[4]

Heddiw saif Casnewydd ar Goridor yr M4, rhwng prifddinas Cymru, Caerdydd, a Bryste yn Lloegr. Ym mlynyddoedd diweddar mae'r ddinas wedi buddsoddi'n uchel mewn sectorau economaidd modern, yn bennaf diwydiannau gwasanaethau ac uwch-dechnoleg. Yn y degawd diwethaf bu mwy na £3 biliwn o fuddsoddiad preifat a grëwyd dros 10,000 swydd. Mae Casnewydd ymhlith y pum lleoliad uchaf o ran sefydlu busnesau yn y Deyrnas Unedig.[4]

Mae Casnewydd wedi cynnal Cwpan Ryder 2010 ar gwrs golff y Celtic Manor. Ystyrid y bydd hyn yn hwb i economi Casnewydd a Chymru i gyd, yn enwedig y diwydiant twristiaeth; rhagwelir y bydd y gystadleuaeth golff yn denu 30,000 o ymwelwyr ychwanegol i Gymru.[5] Yn ôl gwefan swyddogol y gystadleuaeth, "amcangyfrifir bod cynnal y digwyddiad yng Nghymru (gwerth) dros £40m mewn mewnlif arian uniongyrchol, gyda chyfanswm effaith gwariant o £67m o bosibl".[6] Bydd y ddinas yn cynnal Eisteddfod yr Urdd ym mis Mai 2027, am y tro cyntaf erioed [7]

Cludiant

golygu
 
Pont Gludo Casnewydd o'r lan orllewinol.

Saif Casnewydd ar y brif linell reilffordd rhwng Abertawe a Llundain Paddington. Mae llinell reilffordd y Gororau yn mynd i'r gogledd o Gasnewydd, i Henffordd ac Amwythig, a bwriedir ail-agor y llinell i Lyn Ebwy yn 2009. Mae traffordd yr M4 a hen briffordd yr A48 yn pasio drwy Gasnewydd. Mae Pont Gludo Casnewydd, sy'n croesi Afon Wysg, yn un o ddim ond tuag wyth enghraifft o Bont Gludo sy'n parhau i gael ei defnyddio yn y byd.

Addysg

golygu

Lleolir un o safleoedd Prifysgol De Cymru yng Nghasnewydd ac un o safleoedd coleg addysg bellach leol, Coleg Gwent. Mae gan Gasnewydd pedair ysgol gynradd Gymraeg, sef Ysgol Gymraeg Casnewydd, Ysgol Ifor Hael, Ysgol Bro Teyrnon ac Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli, ac un Ysgol Uwchradd Gymraeg, sef Ysgol Gwent Is Coed.

Eisteddfod Genedlaethol

golygu

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghasnewydd ym 1897, 1988 a 2004.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Strands – John Frost. newportpast.com.
  2. Edward Royal, Chartism, Longman, London: 1996
  3. Gwnaed Casnewydd yn ddinas yn 2002.
  4. 4.0 4.1  Strategaeth Gymunedol Casnewydd – llunio'r dyfodol gyda'n gilydd 2005 - 2015. Adalwyd ar 26 Medi, 2008.
  5.  Cwpan Ryder Cymru 2010. Llywodraeth Cynulliad Cymru. Adalwyd ar 26 Medi, 2008.
  6.  Busnes. Cwpan Ryder Cymru 2010. Adalwyd ar 26 Medi, 2008.
  7.  Gwall wrth ddefnyddio Nodyn:Dyf gwe: mae'r paramedrau url a teitl yn angenrheidiol..
 
Dinasoedd yng Nghymru
 
Abertawe | Bangor | Caerdydd | Casnewydd | Llanelwy | Tyddewi
  NODES
os 11