Un o gymunedau ymreolaethol Sbaen yw Castilla y León. Crëwyd y dalaith yn 1983 trwy gyfuno León a Hen Gastillia (Sbaeneg: Castilla la Vieja). Y dalaith yma yw'r fwyaf yn Sbaen o ran arwynebedd, 94,223 km²; mae hefyd yn un o'r rhaniadau mwyaf yn y Gymuned Ewropeaidd. Fodd bynnag, mae'r boblogaeth yn llai na nifer o'r cymunedau ymreolaethol eraill, 2.5 miliwn yn 2005.

Castilla y León
MathCymunedau ymreolaethol Sbaen Edit this on Wikidata
Es-es castilla-y-leon 001.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,383,139 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1983 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAlfonso Fernando Fernández Mañueco Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Sbaeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Sbaen Sbaen
Arwynebedd94,223 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaMadrid, Galisia, Asturias, Cantabria, Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg, La Rioja, Aragón, Castilla-La Mancha, Extremadura, Norte Region Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.7544°N 4.7819°W Edit this on Wikidata
ES-CL Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolJunta of Castile and León Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCortes of Castile and León Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
President of the Junta of Castile and León Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAlfonso Fernando Fernández Mañueco Edit this on Wikidata
Map

Mae Castilla y León yn ffinio ar Asturias a Cantabria yn y gogledd, Aragon, Euskadi a La Rioja yn y dwyrain, Madrid a Castillia-La Mancha yn y de-ddwyrain, Extremadura yn y de a Portiwgal a Galicia yn y gorllewin. Gwatstadtir uchel y Meseta Central yw'r rhan fwyaf o'r dalaith, gydag Afon Douro yn llifo trwyddi. Mae hefyd yn cynnwys nifer o'r dyffrynoedd cyfagos.

Y prif ddinasoedd yw Ávila, Burgos, León, Palencia, Segovia, Soria, Salamanca, Zamora a phrifddinas y gymuned, Valladolid. Rhennir Castilla y León yn naw talaith, sydd a'r un enwau a'r dinasoedd hyn.

Mae chwech Safle Treftadaeth y Byd yn Castilla y León:

  NODES
os 7