Cemeg organig
Isddisgyblaeth o fewn cemeg sy'n ymwneud â'r astudiaeth wyddonol o strwythurau, priodweddau, cyfansoddiadau ac adweithiau cemegol ydy cemeg organig. Gall hefyd gynnwys paratoi drwy synthesis neu unrhyw ffordd arall gyfansoddion carbon eu sail, hydrocarbon a deilliadau eraill.
Enghraifft o'r canlynol | cangen o fewn cemeg, pwnc gradd, disgyblaeth academaidd |
---|---|
Math | cemeg |
Y gwrthwyneb | cemeg anorganig |
Rhan o | cemeg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gall y cyfansoddion hyn gynnwys unrhyw nifer o elfennau eraill gan gynnwys hydrogen, nitrogen, ocsigen a'r halogenau yn ogystal â ffosfforws, silicon a swlffwr [1][2][3]
Mae yna gant a mil o wahanol fathau o gyfansoddion organig ac felly gellir eu cymhwyso ar gyfer y byd real ar raddfa fawr iawn. Dyma sail plastig ei hun yn ogystal â cyffuriau, petrocemegolion, bwydydd, ffrwydron a phaent o bob lliw a llun. Dyma ydy sail prosesau bywyd ei hun.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Robert T. Morrison, Robert N. Boyd, a Robert K. Boyd, Organic Chemistry, 6ed Rhifyn (Benjamin Cummings, 1992, ISBN 0-13-643669-2) - h.y. "Morrison and Boyd"
- ↑ John D. Roberts, Marjorie C. Caserio, Basic Principles of Organic Chemistry,(W. A. Benjamin, Inc. ,1964)
- ↑ Richard F. and Sally J. Daley, Organic Chemistry, Online organic chemistry textbook. Ochem4free.info
Gweler hefyd
golygu- John S Davies (cemegydd) (m. 22 Ionawr 2016): arbenigwr mewn peptidau cylch.