Gŵr busnes a gwleidydd o'r Alban yw Chris Law neu Christopher Murray Alexander Law (ganwyd 21 Hydref 1969); fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Orllewin Dundee, yr Alban. Mae Chris yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin. Cyn 2015 roedd y sedd wedi'i dal gan y Blaid Lafur am gyfnod o 65 mlynedd.[1]

Chris Law
Chris Law


Cyfnod yn y swydd
7 Mai 2015 – Mai 2020
Rhagflaenydd Jim McGovern (Llafur)

Geni (1969-10-21) 21 Hydref 1969 (55 oed)
Yr Alban
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Gorllewin Dundee
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Galwedigaeth Gwleidydd
Gwefan http://www.snp.org/

Hyfforddwyd Law fel cogydd mewn tŷ bwyta Ffrengig cyn iddo raddio yn y brifysgol, ac yna am 10 mlynedd bu'n rhedeg cwmni motobiecio yn yr Himalaya a deg mlynedd wedyn fel Ymgynghorydd Ariannol.

Refferndwm Annibyniaeth yr Alban, 2015

golygu

Yn ystod yr ymgyrch, teithiodd o gwmpas yr Alban mewn hen frigad dân o'r enw 'Ysbryd Annibyniaeth', gan annog pobl i bleidleisio dros annibyniaeth i'w wlad; cafodd gryn sylw ac mae'n gymeriad lliwgar.[2]

Etholiad 2015

golygu

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[3][4] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Chris Law 27684 o bleidleisiau, sef 61.9% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 33.0 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 17092 pleidlais.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Liddle, Andrew (8 Mai 2015). "General Election 2015: SNP's Chris Law 'puts Labour into retirement' with victory in Dundee West". The Courier. Cyrchwyd 9 Mai 2015. Italic or bold markup not allowed in: |work= (help)
  2. www.snp.org; adalwyd 5 Gorffennaf 2015
  3. Gwefan y BBC; adalwyd 03 Gorffennaf 2015
  4. Adroddiad yn y Guardian ar y don o seddi gan yr SNP yn yr Alban
  NODES
mac 1
os 3