Cwmystwyth

pentref yng Ngheredigion

Pentref yn nwyrain Ceredigion yw Cwmystwyth, hefyd Cwm Ystwyth. Saif ar lan Afon Ystwyth ac ar y ffordd gefn sy'n arwain dros yr ucheldir o ardal Pontrhydygroes i dref Rhaeadr Gwy.

Cwmystwyth
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.3521°N 3.7918°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN789740 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruElin Jones (Plaid Cymru)
AS/au y DUBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Mae'r Arolwg Ordnans yn cyfrifo Cwmystwyth fel Canolbwynt daearyddol Cymru (52°19′48.791″N 3°45′59.072″W / 52.33021972°N 3.76640889°W / 52.33021972; -3.76640889 (Centre of Wales); cyfeiriad grid SN7972871704).[1]

Ceir tystiolaeth archaeolegol o gloddio copr yma a ddyddir i tua 1500 CC, a cheir cofnodion hanesyddol o gloddio plwm o tua 1500 OC ymlaen. Yn y 19g roedd diwydiant plwm yr ardal yma o gryn bwysigrwydd. Cloddfa Cwm Cwmstwyth oedd y fwyaf o gloddfeydd plwm yr ardal yma. Dywedir mai 32 oedd yr oedran marw ar gyfartaledd yng Nghwmystwyth yn y cyfnod yma, yn bennaf oherwydd gwenwyno plwm.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Saving the centre of Wales" (yn Saesneg). BBC. 2002-10-24. Cyrchwyd 2010-04-30.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  NODES
os 10