Cwt Nissen
math o adeilad parod
Math o adeilad dur parod i'w defnyddio gan y lluoedd arfog yw cwt Nissen, sy'n cael ei wneud o ddalennau o haearn gwrymiog wedi'i blygu yn hanner silindr dros ffrâm fetel. Fe'i dyluniwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gan y peiriannydd a dyfeisiwr yr Uwchgapten Peter Norman Nissen (1871–1930).
Math o gyfrwng | math o strwythur |
---|---|
Math | shed |
Gwladwriaeth | yr Almaen |
Rhanbarth | Husum, Friedland, Rosengarten, Munster, Neumünster |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Derbyniodd Nissen freinlen am ei ddyluniad yn y Deyrnas Unedig, Awstralia, De Affrica, Canada a’r Unol Daleithiau. Ond gwrthododd unrhyw freindaliadau yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan ddefnyddiwyd y cytiau yn helaeth i greu llety barics.
Dolenni allanol
golygu- "Canmlwyddiant y Cwt Nissen", Gwefan Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru