Cyflwr gramadegol

Mewn gramadeg, mae cyflwr enw neu ragenw yn dynodi ei swyddogaeth ramadegol mewn brawddeg. Mae'r swyddogaethau hyn yn cynnwys y goddrych, y gwrthrych, y derbynnydd neu berchennog. Er bod y rhan fwyaf o ieithoedd yn dynodi cyflwr mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, fe arferir dweud bod cyflyrau gan iaith ond pan y'u dangosir gan forffoleg yr enw - hynny yw, pan mae enwau yn newid eu ffurf i adlewyrchu cyflwr (er enghraifft gogwyddiad).

Yr wyth prif gyflwr

golygu
Dyma'r cyflwr sy'n dangos goddrych y frawddeg, hynny yw, yr enw sydd yn gwneud y gweithred.
Dyma'r cyflwr sy'n dangos gwrthrych y frawddeg, hynny yw, yr enw sydd yn derbyn effaith uniongyrchol y goddrych.
Dyma'r cyflwr sy'n dangos gwrthrych anuniongyrchol y frawddeg, hynny yw yr enw sydd yn derbyn effaith anuniongyrchol y goddrych. Daw'r gair dative yn Saesneg o'r Lladin sydd yn golygu cyflwr sydd yn addas ar gyfer rhoi gan taw dyma'r cyflwr sy'n cael ei ddefnyddio i ddangos derbynnydd gweithred.
Dyma'r cyflwr sydd yn dangos perchnogaeth.
Dyma'r cyflwr sydd yn dangos gwrthrych yr arddodiaid mwyaf cyffredin.
Mae'r cyflwr hwn yn dangos gwrthrych a ddefnyddir i/wrth berfformio gweithred.
Dyma'r cyflwr a ddefnyddir i ddangos cyfarchiad.
Mae'r cyflwr hwn yn dynodi lleoliad.

Dynodi cyflwr gramadegol

golygu

Mewn ieithoedd sy'n dangos cyflyrau yn forffolegol, nid yw'r rheolau cystrawen yn gyfyng ac felly gellir newid o gwmpas trefn y frawddeg (ar gyfer pwylais fel arfer) heb newid yr ystyr. Enghraifft o hyn yw'r ddwy frawddeg Almaeneg ganlynol:

  • Der Mann sieht den Hund - Gwêl y dyn y ci
  • Den Hund sieht der Mann - Gwêl y dyn y ci

Gan fod y cyflwr heb newid mae'r ystyr yn aros yr un peth er bod y drefn wedi newid.

Cyflyrau yng ngwahanol ieithoedd

golygu

Cymraeg

golygu

Mae'r Gymraeg yn dibynnu'n llwyr ar gystrawen ac arddodiaid i gyfleu ystyr. Trefn gyffredin brawddeg Gymraeg yw: BERF + GODDRYCH + GWRTHRYCH + DERBYNNYDD.

Er mwyn dynodi'r derbynnydd defnyddir yr arddodiaid i neu am fel arfer:

Rhoddais i'r gath i'r bachgen.

Er mwyn dynodi'r perchennog, dibynnir yn llwyr ar gystrawen gyda'r perchennog yn dod ar ôl ei eiddo:

Dyma gath y bachgen.

I ryw raddau mae yna ffurfiau o'r rhagenwau personol yn y gwrthrychol (ef a ei, nhw a eu, ni a ein, ayyb):

Dwi'n rhoi'r gath i'r bachgen. - Dwi'n ei rhoi i'r bachgen.

Mae rheolau trefn y frawddeg Gymraeg felly yn dynn iawn.

Lladin

golygu

Mae Lladin yn dangos y saith cyflwr enwol, gwrthrychol, derbyniol, genidol, abladol, cyfryngol a chyfarchol drwy batrymau gogwyddiad cymhleth. Mae yna hefyd ffurfiau lleol o enwau rhai llefydd yn Rhufain hynafol.

Rhoddir enghraifft o ogwyddiadau Lladin gyda ffurfiau unigol y gair homo (dyn), sydd yn perthyn i drydydd gogwyddiad yr iaith Ladin.

  • homo (enwol) "[y] dyn" [fel goddrych] (e.e homo ibi stat saif y dyn yno)
  • hominis (genidol) "eiddo['r] dyn" (e.e nomen hominis est Claudius enw'r dyn yw Claudius)
  • homini (derbyniol) "i/am [y] dyn" [fel gwrthrych anuniongyrchol] (e.e homini donum dedi rhoddais anrheg i'r dyn; homo homini lupus dynoliaeth yw blaidd i ddynoliaeth.)
  • hominem (gwrthrychol) "[y] dyn" [fel gwrthrych uniongyrchol] (e.e hominem vidi gwelais y dyn)
  • homine (abladol) "o/gyda/yn/gan/wrth [y] dyn" [gyda gwahanol defnyddiau] (e.e sum altior homine rwyf yn fwy na'r dyn).

Fel unrhyw iaith gyda chymaint o ogwyddiadau â Lladin gellir trefnu brawddeg mewn unrhyw ffordd ar gyfer effaith neu bwyslais:

Hominem vidi ac Vidi hominem - Gwelais y dyn.

Mae gan Ladin nifer o ddosbarthiadau patrymau gogwyddiad, hynny yw, grwpiau o enwau sydd yn rhannu patrymau gogwyddo tebyg. Fe ystyrir Lladin i fod â phum dosbarth gogwyddo.

Saesneg

golygu

Nid yw cyflyrau yn amlwg iawn yn Saesneg ac felly ar y cyfan mae'n iaith sy'n dibynnu'n fawr ar gystrawen ac arddodiaid i gyfleu ystyr. Serch hyn mae yna rai enghreifftiau o ogwyddiad yn ôl cyflwr yn y rhagenwau personol lle y gwahaniaethir rhwng goddrych a gwrthrych (he a him, they a them, I a me, ayyb).

Mae'r rhan fwyaf o frawddegau Saesneg yn dilyn y patrwm: Goddrych + Berf + Gwrthrych + Derbynydd. Fel arfer mae'r derbynnydd wedi'i farcio gyda'r arddodiaid to neu for.

The cat gives it to them. (Mae'r gath yn ei rhoi iddynt)

Mae'n bosib i beidio marcio'r derbynnydd gyda to neu for yntau'r unig ffordd o wahaniaethu rhwng y gwrthrych a'r derbynnydd yw drwy drefn geiriau ac felly'r rheol yw bod y derbynnydd yn dod cyn y gwrthrych os nad oes arddodiad i ddynodi'r derbynnydd:

The cat gives them it. (Mae'r gath yn ei rhoi iddynt)

Mae yna hefyd gyflwr perchnogol yn Saesneg a ddefnyddir yn aml i ddadleoli'r arddodiad of:

The cat of the girl = The girl's cat. (Cath y ferch.)

Gweler hefyd

golygu
  NODES