Cynghanedd

dull o drefnu odl a chytseiniaid ym marddoniaeth Cymreig

Dull o drefnu geiriau ac odl mewn barddoniaeth er mwyn iddynt swnio'n bersain ac er mwyn i'r farddoniaeth fod yn gofiadwy ydy cynghanedd. Mae'n system o roi trefn arbennig ar gytseiniaid ac mae'n unigryw i'r Gymraeg, (er i farddoniaeth Llydaweg Canol hefyd gael system eitha tebyg). Mae'r gynghanedd fel cyfundrefn yn dyddio'n ôl i'r 14g gyda'r twf sydyn ym mhoblogrwydd mesur y cywydd, ond mae trefnu seiniau o fewn llinell a rhwng llinellau yn draddodiad llawer hŷn. Ceir cyseinedd yng ngwaith y Cynfeirdd a'r Gogynfeirdd, e.e. Hi hen eleni ganed, sy'n llinell o gynghanedd draws allan o Ganu Llywarch Hen a gyfansoddwyd, fe dybir, tua chanol y 9g, a'r llinell Gwedi boregad, briwgig o waith Taliesin (6g).

Pan fo cerdd yn cynnwys cynghanedd, dywedir ei bod yn gerdd gaeth.

Prif fathau o gynghanedd

golygu

Mae 4 prif fath o gynghanedd:

Is-ddosbarthiadau

golygu

Mae'r pedwar prif fath o gynghanedd yn rhannu i mewn i'r is-ddosbarthiadau hyn:

Cynghanedd Groes

golygu

Cynghanedd Draws

golygu
  • Cynghanedd Draws gytbwys acennog
  • Cynghanedd Draws gytbwys ddiacen
  • Cynghanedd Draws anghytbwys ddisgynedig
  • Cynghanedd Draws anghytbwys ddyrchafedig
  • Cynghanedd Draws Fantach
  • Cynghanedd Draws Gyferbyn
  • Cynghanedd Draws Drwsgl Fantach

Cynghanedd Sain

golygu
  • Cynghanedd Sain Alun, hefyd Sain Gyrch a Sain Bengoll
  • Cynghanedd Sain Deirodl
  • Cynghanedd Sain Drosgl
  • Cynghanedd Sain Ddwbwl
  • Cynghanedd Sain gadwynog
  • Cynghanedd Sain lafarog
  • Cynghanedd Sain odl gudd
  • Cynghanedd Sain o gyswllt
  • Cynghanedd Sain o gyswllt ewinog

Cynghanedd Lusg

golygu
  • Cynghanedd Lusg lafarog
  • Cynghanedd Lusg odl gudd
  • Cynghanedd Lusg Wyrdro
  • Cynghanedd Lusg Deirodl
  • Cynghanedd Lusg Bedeirodl

Cyfuniadau ac amrywiadau eraill

golygu
  • Cynghanedd Erin, hefyd Seinlusg afrosgo
  • Cynghanedd Groeslusg
  • Cynghanedd Drawsgroes
  • Cynghanedd Drawslusg
  • Cynghanedd Seindraws
  • Cynghanedd Seingroes
  • Cynghanedd Seinlusg
  • Cynghanedd Gysylltben
  • Cynghanedd Drychben
  • Cynghanedd Bengoll

Nid yw cynghanedd bengoll yn gynghanedd gywir ond rhwng gair cyrch ac ail linell englyn yn ôl rheolau heddiw.

Ffurfiau newydd o gynghanedd

golygu

Y Pedwar Mesur ar Hugain

golygu
Y pedwar mesur ar hugain
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Defnyddir y gynghanedd ym mhob un o'r pedwar mesur ar hugain. Cyfundrefnwyd y mesurau gan Ddafydd ab Edmwnd yn Eisteddfod Caerfyrddin 1451, pan geisiodd gyflwyno dau fesur astrus, gorchest beirdd a chadwynfyr i ddisodli'r englyn milwr a'r englyn penfyr.

Llyfryddiaeth

golygu

Dolennau allanol

golygu
  NODES