Daniel Jones (Mormon)

cenhadwr gyda'r Mormoniaid (1811 -1861)

Un o arweinwyr y Mormoniaid yn Unol Daleithiau America oedd Daniel Jones (4 Awst 1811 - 3 Ionawr 1861) o Abergele. Wedi iddo ymfudo i America cafodd waith fel cychwr, a chafodd droedigaeth tra roedd wrth ei waith yn cludo credinwyr y grefydd honno mewn cwch a oedd dan ei ofal.

Daniel Jones
Ganwyd4 Awst 1811 Edit this on Wikidata
Abergele Edit this on Wikidata
Bu farw3 Ionawr 1861 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcenhadwr Edit this on Wikidata
Clawr Prophwyd y Jubili, un o gylchgronnau Daniel Jones; cyhoeddwyd ym Merthyr Tydfil.

Roedd gyda Joseph Smith (23 Rhagfyr 1805 – 27 Mehefin 1844), sefydlydd Mudiad Saint y Dyddiau Diwethaf (neu'r 'Mormoniaid) pan lofruddiwyd ef. Y flwyddyn ddilynol dychwelodd Jones i Gymru yn genhadwr Mormonaidd. Gwnaeth Ferthyr Tydfil yn ganolfan y sect a chyhoeddodd gyfnodolyn misol, gan gynnwys Prophwyd y Jubili. Hwyliodd o Lerpwl ar 26 Chwefror, 1849, gyda 249 o Gymry, a bu'n gofalu amdanynt ar y daith ar draws y gwastadeddau gan gyrraedd Salt Lake City ar 26 Hydref 1849 gyda'r fintai yn teithio mewn 25 o wagenni caeedig. Ym mis Awst 1852 dychwelodd ar ail daith genhadol, ac yn 1856 aeth â 703 o 'seintiau Cymreig' i Salt Lake City. Treuliodd weddill ei oes yn gapten ar Lyn Great Salt. Bu farw 3 Ionawr 1861, gan adael tair gwraig a chwech o blant.[1]

Cyfeiriadau

golygu

Ffynonellau

golygu
  • Yr Athro Emeritus David Williams, D.Litt., (1900-78), Aberystwyth
  • Latter Day Saints Biographical Encyclopedia. A Compilation of Biographical Sketches of Prominent Men and Women in the Church of Jesus Christ of Latter-Day Saints, Salt Lake City, 1901-36
  • Theirs is the Kingdom, Wendell J. Ashton; Salt Lake City, 1945 (Salt Lake City, 1945 );
  • The Welsh Mormons gan David Williams yn The Welsh Review, 1948 .

Dolenni allanol

golygu
  NODES