Deddf Hunaniaeth ac Iaith (Gogledd Iwerddon) 2022

Deddf er hyrwyddo a gwarchod hawliau'r iaith Wyddeleg (a thafodiaith Sgoteg Wlster).

Mae Deddf Hunaniaeth ac Iaith (Gogledd Iwerddon) 2022 (Gwyddeleg: Acht Féiniúlachta agus Teanga (Tuaisceart Éireann) 2022; Saesneg: Identity and Language (Northern Ireland) Act 2022) yn ddeddf iaith y bu brwydro hir i'w hennill i'r Wyddeleg nes ei gwneud yn ddeddfa gwlad ar 6 Rhagfyr 2022.[1] Mae'n ymwneud yn unig â'r ieithoedd yn nhiriogaeth gyfansoddiadol Gogledd Iwerddon ac nid yng Ngweriniaeth Iwerddon lle ceir deddfwriaeth wahanol.

Deddf Hunaniaeth ac Iaith (Gogledd Iwerddon) 2022
Enghraifft o'r canlynolDeddf Gyhoeddus Gyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi2022 Edit this on Wikidata
Siaradwyr Gwyddeleg yng Ngogledd Iwerddon yn ôl Cyfrifiad 2011

Deddfwriaeth

golygu

Mae'r Ddeddf yn rhoi statws swyddogol yn y gyfraith i'r Wyddeleg a'r Sgoteg Wlster, yn ogystal â dau Gomisiynydd, un i'r Gwyddelod ac un i'r Wlsteg, a swyddfa diwylliant a hunaniaeth. Swyddogaeth y Comisinydd Gwyddeleg, a elwir yn Coimisinéir Teanga yw gwarchod a hyrwyddo'r Wyddeleg ymhlith sefydliadau cyhoeddus. Mae'r comisiynydd yn monitro gweithrediad y safonau ac yn ymchwilio i gwynion.[2]

Prif ddarpariaethau

golygu

Mae'r Bil yn cynnwys y darpariaethau canlynol:[3]

  • Cydnabyddiaeth swyddogol ac amddiffyn yr iaith Wyddeleg
  • Datblygiad y traddodiad Prydeinig Sgoteg ac Ulster
  • Penodi dau gomisiynydd, un ar gyfer yr iaith Wyddeleg ac un ar gyfer y traddodiad Sgoteg/Ulster Prydeinig
  • Creu Swyddfa Hunaniaeth a Mynegiant Diwylliannol
  • Buddsoddiad o £4 miliwn mewn cronfa fuddsoddi yn yr iaith Wyddeleg.

Roedd y darpariaethau ar yr iaith Wyddeleg yn seiliedig ar fodel Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.[4]

Mae'r ddeddfwriaeth yn diddymu Deddf Gweinyddu Cyfiawnder (Iaith) (Iwerddon) 1737, deddf a ddeddfwyd ym 1737 a oedd yn gwahardd defnyddio'r Wyddeleg yn y llysoedd.

Arwyddwyd Cytundeb St Andrews ym mis Hydref 2006.[5] Addawodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn Atodiad B y byddai Deddf Iaith Wyddeleg:

"ac y bydd yn cydweithio â'r Pwyllgor Gwaith newydd i gynyddu a diogelu datblygiad yr iaith Wyddeleg."

Bu ymgyrchwyr yn brwydro ers amser maith dros y ddeddfwriaeth iaith. O'r 2000 cynnar ymlaen, cafwyd ymgyrch mwy trefnus a phoblogaidd o dan faner An Dream Dearg ("Y Criw Coch") a fu'n lobïo a threfnu gorymdeithiau mawrion. Bu i'r ymgyrch dros ddeddf iaith arwain at dorri cytundeb cydweithio Llywodraeth Gogledd Iwerddon rhwng Sinn Féin a'r Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (DUP). Ym mis Ionawr 2020 cytunodd y DUP a Sinn Féin gytuno i rannu pwerau yn Stormont eto, ar ôl tair blynedd o fethu â dod i gytundeb a hynny wedi i Sinn Féin ddweud na fydden nhw’n cydweithio â’r DUP eto, oni bai bod deddfwriaeth ar gyfer yr iaith Wyddeleg yn cael ei phasio. Yn 2021, wedi protestiadau mawrion bu i dros 40 o grwpiau oedd yn ymgyrchu dros yr iaith Wyddeleg lofnodi llythyr yn galw am fynd â Deddf Iaith Wyddeleg drwy San Steffan “ar unwaith”.[6]

Cafodd y Bil ei basio o'r diwedd yn San Steffan yn 2022 gan i gynulliad Stormont fethu â gweithredu.[2]

Ysbrydolwyd y Ddeddf i raddau gan strwythur Deddf yr Iaith Gymraeg 1993

Camau eraill

golygu
  • Mehefin 2023: Cyhoeddwyd yn Nhŷ’r Arglwyddi fod y broses reoleiddio wedi cychwyn a fydd yn arwain at Ddeddf yr Iaith Wyddeleg yng Ngogledd Iwerddon.[9][10]

Gweler hefyd

golygu

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. ""An Act to make provision about national and cultural identity and language in Northern Ireland."". legislation.gov.uk.
  2. 2.0 2.1 "'Lá stairiúil, lá sonais' – reachtaíocht teanga nua don Tuaisceart rite in Westminster". Tuairisc.ie (yn Gwyddeleg). Pádraic Ó Ciardha. 26 Hydref 2022. Cyrchwyd 6 Mehefin 2023.
  3. McClafferty, Enda (2022-10-26). "Irish language and Ulster Scots bill clears final hurdle in Parliament". BBC News (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-07-03. Cyrchwyd 2022-10-27.
  4. "Irish becomes official language in Northern Ireland for the first time". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2022-12-09. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-07-03. Cyrchwyd 2022-12-17. The Irish language legislation was based on the model of the 1993 Welsh Language Act introduced in Wales.
  5. St Andrews agreement, dfa.ie, 2006, https://www.dfa.ie/media/dfa/alldfawebsitemedia/ourrolesandpolicies/northernireland/st-andrews-agreement.pdf, adalwyd 2019
  6. "Deddf Iaith Wyddeleg cyhoeddi llythyr gan ymgyrchwyr at Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon". Golwg360. 2021. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2024.
  7. "Lords concludes scrutiny of Bill". arliament.uk. 14 Gorffennaf 2022.
  8. "Irish becomes official language in Northern Ireland for the first time". Gwefan An Dream Dearg. 2022.
  9. Nuacht RTÉ (2023-06-06). "Tús le próiseas a mbeidh Acht Gaeilge ó thuaidh mar thoradh air" (yn Gwyddeleg).
  10. Rebecca Black PA (6 Mehefin 2023). "Appointment of language commissioners for Irish and Ulster-Scots moves closer". The Irish News (yn Saesneg). Cyrchwyd 6 Mehefin 2023.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ogledd Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  NODES