Deurywioldeb

atyniad rhywiol a / neu rhamantus i bobl o'r ddau yr un rhyw a rhyw eraill

Cyfeiriadedd rhywiol yw deurywioldeb sydd yn cyfeirio at atyniad rhamantus ac/neu rywiol unigolion tuag at unigolion o'r un rywedd neu ryw yn ogystal ag unigolion o'r rhywedd neu ryw arall neu rhywedd anneuaidd. Nid yw'r mwyafrif o ddeurywiolion yn cael eu hatynnu gan ddynion a menywod yn gydradd a gall ffafriaethau newid gydag amser.[1] Ond mae rhai deurywiolion yn aros yn gyson yn eu lefelau o atyniad trwy gydol eu bywydau fel oedolion.

Y faner ddeurywiol, symbol o ddeurywioldeb.
Cyfeiriadedd rhywiol
rhan o rywoleg
Gwahaniaethau

Anrhywioldeb · Cyfunrywioldeb · Deurywioldeb · Heterorywioldeb · Hollrywioldeb · Paraffilia · Unrhywioldeb

Labeli

Cwestiynu · Hoyw · Lesbiad · Queer

Dulliau

Graddfa Kinsey · Grid Klein

Astudiaeth

Bioleg · Demograffeg · Meddygaeth · Seicoleg

Anifeiliaid

Cyfunrywioldeb
mewn anifeiliaid
 ·

Gweler hefyd

Rhyngrywioldeb · Trawsrywedd · Trawsrywioldeb

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Yng nghanol y 1950au, dyfeisiodd Alfred Kinsey raddfa Kinsey mewn cais i fesur cyfeiriadedd rhywiol yn nhermau profiad rhywiol unigolyn. Mae gan y raddfa 7-pwynt o 0 ("yn hollol heterorywiol") i 6 ("yn hollol gyfunrywiol"). Mae deurywiolion yn cyflenwi mwyafrif o werthau'r raddfa (1–5), sy'n amrywio o "heterorywiol yn bennaf, dim ond yn gyfunrywiol yn achlysurol" (1) i "gyfunrywiol yn bennaf, dim ond yn heterorywiol yn achlysurol" (5). Yng nghanol y raddfa (3) yw "heterorywiol a chyfunrywiol yn gydradd".[1]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Robinson, B.A. (gwreiddiol: 19 Ionawr, 2001; diweddarwyd: 1 Mehefin, 2007). Bisexuality: Neither Homosexuality Nor Hetrosexuality. Ontario Consultants on Religious Tolerance. Adalwyd ar 1 Medi, 2007.
  NODES