Disgo

math o gerddoriaeth
(Ailgyfeiriad o Disco (sefydliad))

Mae disgo fel arfer yn fath o gerddoriaeth ddawns, sy'n groes rhwng funk a soul gyda phatrwm rhythmig gyda rhwng 110 a 136 curiad y munud. Gall disgo hefyd gyfeirio at glwb lle mae pobl yn dawnsio i gerddoriaeth. Ceir disgos symudol hefyd, lle chwaraeir cerddoriaeth gyda system sain a ellir ei chludo er mwyn cynnal dawns mewn unrhyw fan.

Hanes Disgo

golygu

Agorwyd y disgo cyntaf ym 1941, yn La Discothèque, Rue de la Huchette, Paris.[angen ffynhonnell] O amgylch 1950-1951, agorwyd llawer o glybiau disgo ym Mharis, hynny yw, clybiau a oedd yn chwarae recordiau yn hytrach na seindorf ddawns.

Agorwyd y disgo cyntaf yng Nghymru ym 1964;[angen ffynhonnell] y Cardiff Discothèque Club, Stryd Siarl, Caerdydd. Roedd llawer o neuaddau dawnsio yn chwarae recordiau neu yn cynnal "disgo," ond hwn oedd y clwb disgo cyntaf yng Nghymru. Roedden nhw'n chwarae cerddoriaeth fel Soul, Ska, ac R&B.

Ym 1965, fe ddaeth yn ffasiynol i ddawnsio'r Go-go. Roedd dawns y Go-go yn addas iawn i'r disgo gan ei fod yn rhoi cyfle i'r dawnswyr fflawntio arddangos eu hunain. Doedd dim recordiau wedi cael eu gwneud yn arbennig i chwarae mewn disgo tan 1973. Roedd recordiau addas yn bodoli, fel Shaft (1971) gan Isaac Hayes. Byddai rhai yn dweud mai Soul Makossa (1972) gan Manu Dibango oedd y record ddisgo gyntaf.

Oes y Disgo

golygu

1975 oedd y flwyddyn pan ddaeth disgo yn boblogaidd gyda recordiau fel The Hustle gan Van McCoy, Love to Love You Baby gan Donna Summer, a Never Can Say Goodbye gan Gloria Gaynor. Cafodd Oes y Disgo (1977 - 1979) wthiad bach ym 1977 gan y ffilm "Saturday Night Fever," ac yn 1979 gan "The Bitch."

Datblygiadau diweddarach

golygu

Yn yr 80au, fe ddatblygodd House a Techno o gerddoriaeth ddisgo.

Gweler hefyd

golygu
  NODES