Efa ferch Madog

Tywysoges o'r 12fed ganrif

Tywysoges o Bowys oedd Efa ferch Madog (bl. 1160). Mae hi'n adnabyddus yn hanes llenyddiaeth Gymraeg fel gwrthrych y gerdd enwog 'Rhieingerdd Efa ferch Madog' gan Cynddelw Brydydd Mawr (bl. tua 1155-1195).

Efa ferch Madog
Ganwyd12 g Edit this on Wikidata
Powys Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Blodeuodd1160 Edit this on Wikidata
TadMadog ap Maredudd Edit this on Wikidata
MamSiwsana ferch Gruffudd Edit this on Wikidata
PriodCadwallon ap Madog Edit this on Wikidata

Merch i'r Brenin Madog ap Maredudd o Bowys oedd Efa. Roedd ganddi bedwar brawd, sef Llywelyn ap Madog (m. 1160), Gruffudd Maelor (m. 1191), Owain Fychan ap Madog (m. 1187), ac Owain Brogyntyn.

Y cwbl a wyddys gyda sicrwydd am hanes Efa yw iddi briodi â Chadwallon ap Madog ab Idnerth, Tywysog Maelienydd. Awgrymir fod Cynddelw wedi canu 'Rhieingerdd Efa ferch Madog' cyn 1160 pan oedd Efa eto'n forwyn neu ar fin priodi. Byddai hynny'n awgrymu iddi gael ei geni tua 1140-45 (roedd merched yn cael eu rhoi mewn priodas mor ifanc â 12-14 oed yng Nghymru'r Oesoedd Canol, a gwledydd eraill).

Cafodd o leiaf un mab, sef Maelgwn, a etifeddodd Faelienydd ar ôl marwolaeth Cadwallon.

Rhieingerdd Efa

golygu

Y bardd a gysylltir yn arbennig â Madog ap Maredudd a'i deulu yw Cynddelw Brydydd Mawr. Canodd Cynddelw ddwy gerdd i Fadog ei hun, dwy i'w fab Llywelyn a thair i Owain Fychan, a chanodd hefyd i lys Madog, ei osgordd a sawl perthynas iddo. Ond mae ei gerdd enwog i Efa yn sefyll allan am ei bod yn cynrychioli un o'r enghreifftiau mwyaf adnabyddus o'r ffurf arbennig o ganu serch canoloesol a elwir yn rhieingerdd, a ystyrir yn rhagflaenydd i'r canu serch llawn dychymyg a welir yng ngwaith y Cywyddwyr o'r 14g ymlaen.

Mae D. Myrddin Lloyd yn awgrymu i'r gerdd gael ei chyfansoddi yn y cyfnod pan fu Efa yn byw yn un o lysoedd Powys, cyn priodi Cadwallon.

Cymeriad delfrydol, teip llenyddol, yw Efa yn y gerdd. Confensiwn oedd hyn a welir yng ngwaith y Trwbadwriaid hefyd, gyda'r gerdd yn canolbwyntio ar deimladau'r carwr yn hytrach na'r gariadferch. Yn y gerdd mae'r bardd wedi'i yrru yn alltud o lys y ferch am iddo ei digio ac mae'n anfon march fel negesydd ('llatai' y Cywyddwyr) i ymbil arni i adfer ei ffafrau.

Ffynhonnell

golygu
  • Nerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (gol.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr, cyfrol I (Caerdydd, 1991), tt. 55-75.
  NODES
languages 1
os 2