Ellis Jones Ellis-Griffith

bargyfreithiwr a gwleidydd

Roedd Syr Ellis Jones Ellis-Griffith (23 Mai 186030 Tachwedd 1926), y Barwnig 1af, yn bargyfreithiwr ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros etholaethau Sir Fôn a Sir Gaerfyrddin.[1]

Ellis Jones Ellis-Griffith
Ellis Jones Ellis-Griffith
Ganwyd23 Mai 1860 Edit this on Wikidata
Birmingham Edit this on Wikidata
Bu farw30 Tachwedd 1926 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbargyfreithiwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Cafodd Griffith ei eni yn ninas Birmingham yn fab i Thomas Morris Griffith adeiladwr alltud o fro Ffestiniog a Jane (cynt Jones) ei wraig, brodor o Sir Fôn. Ei enw bedydd oedd Ellis Jones Griffith.[2]

Cafodd ei addysg gynharaf mewn ysgol breswyl yn Holt, ger Wrecsam cyn symud i Goleg Brifysgol Cymru, Aberystwyth, Prifysgol Llundain a Choleg Downing, Caergrawnt lle bu'n darllen y gyfraith. Tra yng Nghaergrawnt fe fu yn Llywydd Undeb y Brifysgol.

Gyrfa'r Gyfraith

golygu

Cafodd Griffith ei alw i'r Bar yn y Deml Fewnol gan weithio yng Nghylchdaith Cyfraith Caer a Gogledd Cymru. Bu'n Farnwr Cofiadur ardal Penbedw o 1907-1912 a chafodd ei urddo'n Gwnsler y Brenin (KC) ym 1910.

Gyrfa Gwleidyddol

golygu

Safodd Griffith ei etholiad gyntaf dros achos y Rhyddfrydwyr yn etholaeth Toxteth ym 1892 heb lwyddiant. Yn etholiad 1895 fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol dros etholaeth Sir Fôn. Bu'n cynrychioli'r ynys hyd 1918, pa bryd y cafodd ei drechu gan Syr Owen Thomas ymgeisydd y Blaid Lafur.

Wrth gynrychioli Môn cafodd ei ethol yn gadeirydd Y Blaid Seneddol Gymreig (cylch sy'n cynnwys pob AS o etholaeth yng Nghymru). Cafodd ei godi'n Weinidog Gwladol yn y Swyddfa Gartref, ac yn rhinwedd y swydd honno ef fu'n bennaf gyfrifol am gwrs Deddf Datgysylltu’r Eglwys yng Nghymru trwy'r Senedd.

Collodd ei sedd ym Môn yn etholiad ôl-ryfel 1918, cafodd ei ddethol i sefyll eto ar gyfer yr etholiad canlynol ond tynnodd ei enw allan o'r ras cyn etholiad 1922.

Ym 1922 safodd yn aflwyddiannus fel ymgeisydd yn etholaeth Prifysgol Cymru. Cafodd ei ethol fel Aelod Seneddol Caerfyrddin yn etholiad Cyffredinol 1923 ond ni safodd ar gyfer ei ail ethol yn Etholiad Cyffredinol 1924.

Bywyd Personol

golygu

Priododd Mary, merch Robert Owen, yr Wyddgrug ym 1892, cawsant ddau fab ac un ferch; ond dim ond un o'i meibion a'i oddiweddodd: Ellis Arundel Jones Griffith, yr 2il Farwnig.

Bu Syr Ellis farw'n sydyn ym Mrawdlys Abertawe ar Dachwedd 30 1926 a chafodd ei gladdu ym Mynwent Llanidan Brynsiencyn.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Humphreys, E. M., (1953). ELLIS-GRIFFITH, ELLIS JONES (1860 - 1926), bargyfreithiwr a gwleidydd. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 25 Gor 2019
  2. Yr Archif Genedlaethol Cyfrifiad 1861 RG 9/2135; Ffolio: 68; Tud: 35
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Syr Thomas Lewis
Aelod Seneddol dros Ynys Môn
18951918
Olynydd:
Owen Thomas
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Syr John Hinds
Aelod Seneddol dros Caerfyrddin
19231924
Olynydd:
Alfred Mond
  NODES