Lleolir y ffaryncs (Sa: pharynx) yng nghefn y geg mewn dyn a mamaliaid eraill ac mae ganddo ddau bwrpas: mae'n rhan o'r system dreulio bwyd ac yn rhan o'r system respiradu. Gan fod aer a bwyd yn pasio drwyddo ceir fflap bychan o'r enw epiglotis (neu ardafod) sy'n cau dros y bibell wynt pan llyncir bwyd, i atal y person (neu'r anifail) rhag tagu. Mewn pobol, mae'r ffaryncs hefyd yn bwysig yn y broses o greu sain.

Ffaryncs
Enghraifft o'r canlynolanatomical cluster type, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathclwstwr anatomegol heterogenaidd, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Rhan ogwddf, llwybr anadlu uchaf Edit this on Wikidata
Cysylltir gydalaryncs, oesoffagws, ceudod y trwyn, ceudod y geg Edit this on Wikidata
Yn cynnwysnasopharynx, oropharynx, laryngopharynx Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

1: Y geg
2: Taflod
3: Tafod bach
4: Tafod
5: Dannedd
6: Chwarennau poer
7: Isdafodol
8: Isfandiblaidd
9: Parotid
10: Argeg (ffaryncs)
11: Sefnig (esoffagws)
12: Iau (Afu)
13: Coden fustl
14: Prif ddwythell y bustl
15: Stumog
16: Cefndedyn (pancreas)
17: Dwythell bancreatig
18: Coluddyn bach
19: Dwodenwm
20: Coluddyn gwag (jejwnwm)
21: Glasgoluddyn (ilëwm)
22: Coluddyn crog
23: Coluddyn mawr
24: Colon trawslin
25: Colon esgynnol
26: Coluddyn dall (caecwm)
27: Colon disgynnol
28: Colon crwm
29: Rhefr: rectwm
30: Rhefr: anws
  Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  NODES
os 5