Ffwrnais, Ceredigion

pentref yng Ngheredigion

Pentref bychan yng nghymuned Ysgubor-y-coed, Ceredigion, Cymru, yw Ffwrnais ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (Saesneg: Furnace).[1] Saif yng ngogledd y sir, ar lan ddwyreiniol Afon Dyfi, tua milltir a hanner o'r afon ei hun, ar briffordd yr A487 rhwng Machynlleth ac Aberystwyth, ger Eglwys Fach.

Ffwrnais
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.538°N 3.941°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN684951 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruElin Jones (Plaid Cymru)
AS/au y DUBen Lake (Plaid Cymru)
Map
Am yr ardal yn Llanelli o'r un enw, gweler Ffwrnais, Llanelli.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]

Rhaeadr Ffwrnais

Dal y pentref ei enw o'r ffwrnais a sefydlwyd yno ganol y 18g. Mae Ffwrnais Dyfi yn ffwrnais haearn yn cael ei danio gan olosg. Detholwyd safle ger rhaeadr ar afon Einion, ffrwd fynyddig sy'n un o ledneintiau afon Dyfi, i fanteisio ar y cyflenwad o olosg a oedd ar gael o'r coedwigoedd lleol ar lethrau isaf bryniau Pumlumon. Byddai'r mwyn haearn yn cael chludo yno gan longau arfordirol o Cumbria ac i fyny afon Dyfi. Gwelir yr hen felin ddŵr yno o hyd yn y pentref.

Adeiladwyd y ffwrnais tua'r flwyddyn 1755, ond dim ond am tua hanner canrif y cafodd ei ddefnyddio. Rhoddwyd y gorau i'r gwaith yn 1810. Mae'r ffwrnais yn atyniad twristaidd dan ofal Cadw bellach.[4]

Mae'r olwyn ddŵr yn atyniad twristaidd boblogaidd i bobl sy'n ymweld â'r ardal.


Cyfeiriadau

golygu
  1. British Place Names; adalwyd 27 Rhagfyr 2021
  2. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-27.
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. "Ffwrnais Dyfi", Cadw; adalwyd 27 Rhagfyr 2021
  NODES