Tenor o'r Eidal oedd Franco Corelli (8 Ebrill 1921 - 29 Hydref 2003) a gafodd yrfa opera ryngwladol fawr rhwng 1951 a 1976. Yn gysylltiedig yn benodol â rolau tenor dramatig repertoire'r Eidal. Cafodd gyrfa hir a ffrwythlon gyda'r Metropolitan Opera yn Ninas Efrog Newydd rhwng 1961 a 1975. Ymddangosodd hefyd ar lwyfannau'r rhan fwyaf o brif dai opera Ewrop a chyda chwmnïau opera ledled Gogledd America.[1]

Franco Corelli
Ganwyd8 Ebrill 1921 Edit this on Wikidata
Ancona Edit this on Wikidata
Bu farw29 Hydref 2003 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Milan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Eidal Yr Eidal
Alma mater
Galwedigaethcanwr opera Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laistenor Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.francocorelli.org Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Dario Franco Corelli yn Ancona. Astudiodd beirianneg lyngesol ym Mhrifysgol Bologna. Wrth astudio yno cymerodd rhan mewn cystadleuaeth gerddorol o dan anogaeth gyfaill a oedd yn ganwr amatur. Er na enillodd y gystadleuaeth, cafodd ei annog gan y beirniaid i ddilyn gyrfa canu ac aeth Corelli i Gonservatoire Gerdd Pesaro i astudio opera dan Rita Pavoni.[2]

Gyrfa Gynnar: 1951-1960

golygu

Yn ystod haf 1951, enillodd Corelli y Maggio Musicale Fiorentino yn Fflorens. Y wobr oedd cyfle i ymddangos yn Spoleto yr hydref canlynol. Yn wreiddiol, y bwriad oedd iddo ganu Radames yn Aida Verid a threuliodd dri mis yn paratoi ar gyfer y rôl gyda'r arweinydd Giuseppe Bertelli. Yn y pen draw, newidiodd Corelli i Don José yn Carmen Bizet, gan deimlo nad oedd ganddo'r ystryw dechnegol a'r legato oedd ei angen ar gyfer rôl Radamès. Ym mis Mai 1952, gwnaeth ei début yn Opera Rhufain fel Maurizio yn Adriana Lecouvreur gyferbyn â Maria Caniglia fel Adriana. Yr un flwyddyn ymddangosodd mewn operâu gyda thai opera llai ledled yr Eidal ac ar y radio Eidalaidd. Ym 1953, ymunodd â rhestr o brif denoriaid Opera Rhufain lle treuliodd lawer o'i amser yn perfformio drwy 1958. Ei rôl gyntaf gyda chwmni Rufain ym 1953 oedd fel Romeo yn opera Zandonai Giulietta e Romeo. Yn ddiweddarach yr un tymor canodd Pollione yn Norma Bellini gyferbyn â Maria Callas yn rôl y teitl. Dyma'r tro cyntaf i'r ddau ganu gyferbyn â'i gilydd a daeth Callas yn edmygydd o waith Corelli. Perfformiodd y ddau yn aml gyda’i gilydd dros y blynyddoedd nesaf mewn partneriaeth a barhaodd hyd ddiwedd gyrfa Callas.[3]

Wrth ganu yn Opera Rhufain, ymddangosodd Corelli gyda nifer o dai opera eraill yn yr Eidal ac yn rhyngwladol. Fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn La Scala ym Milan ym 1954, fel Licinio yn La vestale gan Spontini gyferbyn â Callas yn chware rôl Giulia ar gyfer agoriad tymor 1954-1955.[4] Dychwelodd sawl gwaith i'r tŷ dros y pum mlynedd nesaf, gan ganu gyferbyn â Callas mewn cynyrchiadau o Fedora (1956), Il pirata (1958) a Poliuto (1960). Yn ogystal, portreadodd rôl Dick Johnson mewn perfformiad hynod o dda o La fanciulla del West yn La Scala ym 1956, gyferbyn â Gigliola Frazzoni a Tito Gobbi, a ddarlledwyd yn fyw ar y radio Eidalaidd. Daeth ei début yn y Maggio Musicale Fiorentino yn Fflorens a Gŵyl Arena di Verona ym 1955. Perfformiodd i Opera Taleithiol Fienna fel Radamès a'r Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden, Llundain fel Cavaradossi, ym 1957.[3] Perfformiodd yn y Teatro Nacional de São Carlos yn Lisbon, Opera Lyric Chicago ac Opera San Francisco ym 1958; ac Opera Taleithiol Berlin ym 1961. Ymhlith llwyddiannau niferus y degawd i Corelli oedd dau berfformiad enwog yn y Teatro di San Carlo yn Napoli, ymddangosodd ym 1958 fel Don Alvaro yn La forza del destino gyferbyn â Renata Tebaldi fel Leonora ac ym 1959 perfformiodd Maurizio yn Adriana Lecouvreur gyferbyn â Magda Olivero yn rôl y teitl.[5]

Blynyddoedd y Met: 1961–1975

golygu

Gwnaeth Corelli ei ymddangosiad cyntaf i Metropolitan Opera Efrog Newydd ar 27 Ionawr 1961 fel Manrico yn Il trovatore gyferbyn â Leontyne Price fel Leonora a oedd hefyd yn ymddangos am y tro cyntaf yn y Met y noson honno.[6] Canodd i ganmoliaeth fawr yn y Met tan 1974 mewn rolau fel Calaf (gyda Birgit Nilsson fel Turandot), Cavaradossi, Maurizio, Ernani, Rodolfo ac Edgardo. Ymgymerodd hefyd â rhannau Ffrangeg mewn cynyrchiadau newydd o Roméo et Juliette a Werther. Canodd mewn nifer o nosweithiau hanesyddol yn y Met gan gynnwys gala cau'r Hen Met, y cyngerdd yn anrhydeddu ymddeoliad Syr Rudolf Bing, ac adferiad chwedlonol Callas o Tosca. Ei berfformiad olaf yn y Met oedd ar 28 Rhagfyr 1974 fel Calàf gydag Ingrid Bjoner, a oedd hefyd yn gwneud ei ymddangosiad olaf yn y Met fel Turandot. Fodd bynnag, aeth Corelli ar daith helaeth gyda'r Metropolitan Opera yn 1975, gan ganu mewn perfformiadau mewn dinasoedd ledled yr Unol Daleithiau a Japan

Wrth ganu yn y Met, parhaodd Corelli i fod yn bresenoldeb ar y llwyfan rhyngwladol. Ym 1961 gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf gyda'r Deutsche Oper Berlin. Dychwelodd i La Scala ym 1962, ar gyfer adfywiad Les Huguenots Meyerbeer, gyferbyn â Joan Sutherland, ac ymddangosodd yr un flwyddyn fel Manrico mewn cynhyrchiad clodwiw o Il trovatore yng Ngŵyl Salzburg dan Herbert von Karajan a gyferbyn â Leontyne Price, Giulietta Simionato, ac Ettore Bastianini. Hefyd yn 1962 gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf gyda Chwmni Opera Philadelphia Lyric fel Mario Cavaradossi. Dychwelodd i Philadelphia bron bob blwyddyn hyd 1971 yn portreadu bron i ddwsin o wahanol gymeriadau. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y Paris Opéra ym 1964 gyferbyn â Callas yn Tosca a Norma.[7] Enillodd glod uchel hefyd wrth gydweithio â'r arweinydd Eidaleg-Americanaidd Alfredo Antonini mewn sawl cyngerdd gala yn Efrog Newydd yn ystod ganol y 1960au

Yn gynnar yn y 1970au, dechreuodd llais Corelli ddangos arwyddion o ddirywiad [4] ar ôl blynyddoedd o ddefnydd caled mewn repertoire heriol. O ganlyniad, daeth perfformio yn fwyfwy anodd i'r tenor. Gwnaeth ei ymddangosiad opera olaf fel Rodolfo ym 1976 yn Torre del Lago yn 55 oed.[8]

Ym 1957 cyfarfu Corelli â'r soprano Loretta di Lelio pan aeth i gefn llwyfan ar ôl un o'i berfformiadau yn Nhŷ Opera Rhufain i gael ei lofnod. Fe ddechreuon nhw weld ei gilydd yn rhamantus cyn priodi ym 1958. Ar ôl eu priodas, rhoddodd Loretta ei gyrfa opera newydd i fyny i weithio fel rheolwr busnes, ysgrifennydd, asiant cysylltiadau cyhoeddus, cogydd a chyfieithydd Saesneg ei gŵr. Parhaodd eu priodas nes i Corelli farw 45 mlynedd yn ddiweddarach.[2]

Marwolaeth

golygu

Ar ôl ymddeol o'r llwyfan, daeth Corelli yn athro llais poblogaidd yn Ninas Efrog Newydd, cafodd ei berswadio i ddod allan o ymddeoliad am gyngherddau ym 1980 a 1981.

Bu farw ym Milan yn 2003, yn 82 oed, ar ôl dioddef strôc yn gynharach y flwyddyn honno. Cafodd ei gladdu ym Mynwent Cimitero Milan.[2]

Disgyddiaeth dethol

golygu
Blwyddyn Opera Cast Arweinydd,
Tŷ opera a cherddorfa
Label
1956 VerdiAida Mary Curtis Verna, Franco Corelli,
Miriam Pirazzini, Giangiacomo Guelfi,
Giulio Neri
Angelo Questa
Cerddorfa a chorws RAI Turin
Cetra
1960 BelliniNorma Maria Callas, Christa Ludwig,
Franco Corelli, Nicola Zaccaria
Tullio Serafin
Coro e Orchestra Teatro alla Scala
EMI
1960 LeoncavalloPagliacci Franco Corelli, Lucine Amara,
Tito Gobbi, Mario Zanasi
Lovro von Matačić
Coro e Orchestra Teatro alla Scala
EMI
1962 MascagniCavalleria rusticana Victoria de los Ángeles, Franco Corelli,
Mario Sereni
Gabriele Santini

Cerddorfa a chorws Opera Rhufain

EMI
1963 BizetCarmen Leontyne Price, Franco Corelli,
Mirella Freni, Robert Merrill
Herbert von Karajan
Wiener Philharmoniker and Wiener Staatsopernchor
RCA
1963 GiordanoAndrea Chénier Franco Corelli, Antonietta Stella,
Mario Sereni
Gabriele Santini
Cerddorfa a chorws Opera Rhufain
EMI
1964 Verdi – Il trovatore Franco Corelli, Gabriella Tucci,
Giulietta Simionato, Robert Merrill,
Ferruccio Mazzoli
Thomas Schippers
Cerddorfa a chorws Opera Rhufain
EMI
1965 PucciniTurandot Birgit Nilsson, Franco Corelli,
Renata Scotto, Bonaldo Giaiotti
Francesco Molinari-Pradelli
Cerddorfa a chorws Opera Rhufain
EMI
1967 Verdi – Aida Birgit Nilsson, Franco Corelli,
Grace Bumbry, Mario Sereni, Bonaldo Giaiotti
Zubin Mehta
Cerddorfa a chorws Opera Rhufain
EMI
1966 GounodFaust Joan Sutherland, Franco Corelli,
Nicolai Ghiaurov
Richard Bonynge
Ambrosian Opera Chorus,
London Symphony Orchestra
DECCA
1966 Puccini – Tosca Birgit Nilsson, Franco Corelli,
Dietrich Fischer-Dieskau
Lorin Maazel
Orchestra dell'Accademia Nazionale di Santa Cecilia
DECCA
1968 Gounod – Roméo et Juliette Franco Corelli, Mirella Freni,
Xavier Dupraz
Alain Lombard

Cerddorfa a chorws Opera Paris

EMI
1970 Bizet – Carmen Franco Corelli, Anna Moffo,
Helen Donath, Piero Cappuccilli
Lorin Maazel
Orchester und Chor dêr Deutschen Oper Berlin
RCA

Cyfeiriadau

golygu
  NODES
eth 31