Garbha Pindasana (Baban mewn Croth)

asana eistedd mewn ioga hatha

Asana o fewn ioga yw Garbha Pindasana (Sansgrit: ङर्भ Pइण्डआसन, IAST: Garbha Piṇḍāsana ), Baban mewn Croth,[1][2] weithiau'n cael ei fyrhau i Garbhasana.[3][4][5]

Garbha Pindasana
Enghraifft o'r canlynolasana Edit this on Wikidata
Mathasanas eistedd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Asana cydbwyso ydyw yn y bôn, gydag elfen o eistedd hefyd, ac fe'i ceir o fewn i ioga hatha ac ioga modern fel ymarfer corff.

Mae'r ystum yn union yr un fath ag Uttana Kurmasana (y Crwban gwrthdro, oddigerth bod y corff ar y cefn yn yr asana hwnnw yn lle bod yn cydbwyso'n unionsyth.[6]

Geirdarddiad

golygu

Daw'r enw o'r geiriau Sansgrit garbha sy'n golygu "croth"; piṇḍa, sy'n golygu "embryo" neu "ffoetws"; ac āsana (आसन) sy'n golygu "osgo" neu "siap y corff".[7]

Disgrifir yr asana hwn yn Bahr al-Hayāt o'r 17g.[8]

Disgrifiad

golygu

Croesir y coesau yn Padmasana; gall ymarferwyr sy'n methu cadw'r traed yn Padmasana yn hawdd groesi'r coesau yn Sukhasana. Mae'r breichiau wedi'u cordeddu trwodd y tu ôl i'r pengliniau, ac yna mae'r dwylo'n ymestyn i fyny i afael yn y clustiau. Yna caiff y corff ei gydbwyso ar gwtyn y cynffon.[1][9]

Yn ioga ashtanga vinyasa, mae'r ystum yn y gyfres gynradd.[2]

Amrywiadau

golygu

Gall safle'r fraich fod yn amrywiol.[10]

Ffurf arall yw'r asana lledorwedd Supta Garbhasana gyda'r fferau wedi'u croesi y tu ôl i'r gwddf, yr un fath â Yoganidrasana (Iogi'n Cysgu).[11]

Hawliadau

golygu

Honodd rhai eiriolwyr ioga yn yr 20g, megis BKS Iyengar, fod ioga'n effeithio'n bositif ar organau penodol, heb nodi unrhyw dystiolaeth o hynny.[12][13] Honnodd Iyengar fod yr ystum hwn yn gwneud i'r gwaed gylchredeg yn dda o amgylch organau'r abdomen, sydd "wedi'u contractio'n llwyr", gan eu cadw'n iach.[1]

Gweler hefyd

golygu

Llyfryddiaeth

golygu
  • Iyengar, B. K. S. (1979) [1966]. Light on Yoga: Yoga Dipika. Unwin Paperbacks. ISBN 978-1855381667.
  • Jain, Andrea (2015). Selling Yoga: from Counterculture to Pop Culture. Oxford University Press. ISBN 978-0-19-939024-3. OCLC 878953765.
  • Newcombe, Suzanne (2019). Yoga in Britain: Stretching Spirituality and Educating Yogis. Bristol, England: Equinox Publishing. ISBN 978-1-78179-661-0.
  • Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace (arg. 2nd). Abhinav Publications. ISBN 81-7017-389-2.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Iyengar 1979.
  2. 2.0 2.1 "Primary Series of Ashtanga Vinyasa Yoga: yoga chikitsa (cikitsa) | Garbha Pindasana". Ashtanga Vinyasa Yoga. Cyrchwyd 30 Ionawr 2019. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "Ashtanga" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  3. Aggarwal, Dholan Dass (1 Ionawr 1989). Yogasana & Sadhana. Pustak Mahal. t. 72. ISBN 978-81-223-0092-5.
  4. Hewitt, James (3 Ionawr 1990). Complete Yoga Book. Schocken Books. t. 307.
  5. Stearn, Jess (1965). Yoga, youth, and reincarnation. Doubleday. t. 350.
  6. Sjoman 1999, tt. 81, Plate 15 (pose 85).
  7. Sinha, S. C. (1 Mehefin 1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
  8. Mallinson, James (9 December 2011). "A Response to Mark Singleton's Yoga Body by JamesMallinson". Cyrchwyd 4 Ionawr 2019. revised from American Academy of Religions conference, San Francisco, 19 Tachwedd 2011.
  9. Keleher, Neil (17 December 2018). "Ashtanga Yoga Poses, Seated Poses Part 1". Sensational Yoga Poses. Cyrchwyd 30 Ionawr 2019.
  10. "Garbha Pindasana | The Embryo". Yoga in Daily Life. 2019. Cyrchwyd 31 Ionawr 2019.
  11. "Supta-Garhbasana". OMGYAN. Cyrchwyd 6 Ionawr 2019.
  12. Newcombe 2019.
  13. Jain 2015.
  NODES