Grand Designs
Cyfres deledu'r Deyrnas Unedig gan Channel 4 ydy Grand Designs, sy'n dilyn prosiectau pensaerniaeth ac adeiladu anarferol, cyflwynir y gyfres gan Kevin McCloud a cynhyrchir gan Talkback Thames. Darlledir y gyfres yn Awstralia, Seland Newydd, yr Iseldiroedd a'r Almaen.
Grand Designs | |
---|---|
Genre | Eiddo |
Crëwyd gan | Talkback Thames FremantleMedia |
Serennu | Kevin McCloud |
Cyfansoddwr y thema | David Lowe |
Gwlad/gwladwriaeth | Yr Unol Daleithiau |
Iaith/ieithoedd | Saesneg |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 1 awr (gyda hysbysebion) |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | Channel 4 |
Fformat llun | 16:9 |
Rhediad cyntaf yn | 29 Ebrill 1999 |
Dolenni allanol | |
Gwefan swyddogol | |
Proffil IMDb | |
Proffil TV.com |
Arddangosfa
golyguMae arddangosfeydd cysylltiedig Grand Designs: Live yn cael eu cynnal yn flynyddol yn Llundain a Birmingham. Maent yn arddangos dylunio a thechnoleg cyfoes ar gyfer y cartref a'r ardd, gyda chanoedd o gyfanwerthwyr a gweithgynhyrchwyr â stondinau i hybu eu cynnyrch a'u gwasanaethau. Bu dros 100,000 o ymwelwyr i arddangosfa "Grand Designs Live" 2008, a barhaodd 9 diwrnod, yng nganolfan Excel, Llundain. Darlledodd Channel 4 ddau raglen yn ddyddiol o'r sioe, sef Grand Designs Live:Today a Grand Designs Live.
Cylchgrawn
golyguMae hefyd cylchgrawn cysylltiedig, a elwir hefyd yn Grand Designs, a gyhoeddir gan Media 10, gyda gwybodaeth am d dylunio a thechnoleg cyfoes ar gyfer y cartref a'r ardd, a chyngor a chanllawiau i helpu pobl gyda'u prosiectau eu hunain.