Gwobrau Rhyngwladol Emmy
Gwobr sy'n cael ei rhoi gan Academi Ryngwladol y Celfyddydau a'r Gwyddorau Teledu i raglenni teledu sydd wedi'u cynhyrchu a'u darlledu'n wreiddiol y tu allan i'r Unol Daleithiau yw Gwobrau Rhyngwladol Emmy. Cyflwynir y rhan fwyaf o'r gwobrau yn y brif ddefod wobrwyo, sef Gala Gwobrau Rhyngwladol Emmy a gynhelir fel arfer ym mis Tachwedd yng Ngwesty'r Hilton, Dinas Efrog Newydd. Daw dros 1,200 o bobl o'r diwydiant i ddathlu rhagoriaeth ym myd teledu.
Categorïau
golyguMae gwobrau Emmy yn cael eu rhoi mewn un categori ar bymtheg ar hyn o bryd[1]:
- Gwobrau Rhaglenni
- Rhaglenni Celfyddydol
- Perfformiad Gorau gan Actores
- Perfformiad Gorau gan Actor
- Comedi
- Dogfen
- Cyfres Ddrama
- Rhaglen Oriau Brig mewn Iaith Heblaw Saesneg
- Adloniant Di-sgript
- Cyfres Rhaglenni Byrion
- Telenofela
- Ffilm Deledu/Cyfres Fer
- Gwobrau Plant
- Animeiddio
- Ffeithiol ac Adloniant
- Ffilmio Byw
- Gwobrau Newyddion
- Materion Cyfoes
- Newyddion
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) International Emmy® Awards. Academi Ryngwladol y Celfyddydau a'r Gwyddorau Teledu. Adalwyd ar 27 Gorffennaf, 2021.