Cysyniad cyfreithiol yw hawlfraint, a ddeddfir gan lywodraethau, i roi i'r sawl sy'n awdur gwaith gwreiddiol hawliau cyfyngedig i reoli ei ddosbarthiad, fel arfer am gyfnod o 70 mlynedd wedi marwolaeth yr awdur. Ar ôl y cyfnod hwn, mae'r gwaith yn dod i'r parth cyhoeddus.

Hawlfraint
Symbol hawlfraint, neu Copyright, rhyngwladol
Enghraifft o'r canlynolcysyniad cyfreithiol, exclusive right Edit this on Wikidata
Mathintellectual property right Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebcopyleft Edit this on Wikidata
Rhan oauthor's rights Edit this on Wikidata
Yn cynnwystranslation rights, reproduction right, broadcasting rights, adaptation right, publication right Edit this on Wikidata
Rhagflaenyddhanken Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn gyffredinol, yr "hawl i gopïo" ydyw, ond mae fel arfer yn darparu hawliau eraill i'r awdur yn ogystal, megis yr hawl i gael credyd am ei waith, i benderfynu pwy all ei addasu, pwy all ei berfformio, pwy all elwa yn ariannol. Mae'n ffurf o eiddo deallusol (yn debyg i batent, marc masnach a chyfrinach masnach) sy'n gymwys i unrhyw ffurf o syniad neu wybodaeth sy'n wreiddiol. Crëwyd hawlfraint, ar y dechrau, fel modd i lywodraethau Ewrop gyfyngu argraffu; pwrpas cyfoes hawlfraint yw i hybu creadigaeth gweithiau newydd gan roi rheolaeth llawn o'r gwaith a'r elw o'r gwaith i'r awdur.

Mae hawlfraint wedi cael ei safoni yn ryngwladol, ac mae'n para rhwng pumdeg a can mlynedd o farwolaeth yr awdur, neu gyfnod cyfyngedig ar gyfer gweithiau anhysbys neu gan awduron corfforedig; mae rhai awdurdodau angen defod er mwyn sefydlu hawlfraint, ond mae'r rhan fwyaf yn adnabod hawlfraint unrhyw waith gorffenedig heb gofrestru defodol. Caiff hawlfraint ei orfodi fel mater sifil fel rheol, ond mae rhai awdurdodau yn gosod mesuriadau troseddol yn erbyn y rhai a dorrai hawlfraint.

Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau yn adnabod cyfyngiadau hawlfraint, gan ganiatáu eithriadau "teg" i cyfyngiadau hawlfraint yr awdur, a rhoi rhai hawliau i ddefnyddwyr. Mae datblygiad y we, cyfryngau digidol, a thechnoleg megis rhwydweithiau cyfrifiadurol, megis rhannu ffeiliau cyfoed-gyfoed, wedi ysgogi i'r cyfyngiadau gael eu hail-ddethol, ac wedi cyflwyno anawsterau pellach i'r broses o orfodi hawlfraint, ac ysbrydoli heriau ychwanegol i sail athronyddol y gyfraith. Mae busnesau sydd â dibyniad economaidd ar hawlfraint wedi hyrwyddo ymestyniad ac ehangiad eu hawliau copi, ac wedi ceisio cael gorfodaeth cyfreithiol a thechnolegol ychwanegol.

Gweler hefyd

golygu
  NODES