Hugh d'Avranches, Iarll 1af Caer

bonheddig Seisnig

Iarll cyntaf Caer oedd Hugh d'Avranches (Ffrangeg Normanaidd: Hugues d'Avranches) (bu farw 27 Gorffennaf 1101), a elwid hefyd Huw Flaidd (Hugues le Loup) a Huw Fras (Hugues Goz). Roedd yn un o uchelwyr pwysicaf Lloegr yn dilyn y Goncwest Normanaidd.

Hugh d'Avranches, Iarll 1af Caer
Ganwydc. 1047 Edit this on Wikidata
Dugiaeth Normandi Edit this on Wikidata
Bu farw27 Gorffennaf 1101 Edit this on Wikidata
St Werburgh's Abbey, Chester Edit this on Wikidata
DinasyddiaethDugiaeth Normandi, Teyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
TadRichard Goz Edit this on Wikidata
PriodErmentrude o Claremont Edit this on Wikidata
PlantRichard d'Avranches, Robert D'avranches, Otuel D'avranches, Giofu D'avranches, Matilda, Geva o Gaer Edit this on Wikidata
Llechen goffa i Hugh d'Avranches yn Avranches

Roedd yn fab i Richard Goz, Vicomte d'Avranches, yn ne-orllewin Normandi, ac etifeddodd diroedd helaeth oddi wrth ei dad. Daeth yn un o gynghorwyr pwysicaf Wiliam, dug Normandi, a chyfrannodd 60 llong i ymgyrch Wiliam yn erbyn Lloegr yn 1066, er na chroesodd ef i Loegr.

Wedi i Wiliam goncro Loegr, gwnaed Hugh yn Iarll Caer yn 1070. Bu ef a'i gefnder, Robert o Ruddlan, yn ymladd yn erbyn y Cymry. Yn 1081 cipiodd y ddau frenin Gwynedd, Gruffudd ap Cynan, trwy frad mewn cyfarfod ger Corwen. Carcharwyd Gruffudd gan Hugh yng Nghaer, tra cymerodd Robert feddiant ar Wynedd. Pan laddwyd Robert gan y Cymry yn 1088, cymerodd Hugh ei diroedd. Llwyddodd Gruffudd ap Cynan i ddianc o Gaer, ac yn 1094, collodd Hugh y rhan fwyaf o'i diroedd yng Ngwynedd i'r Cymry.

Yn 1098, ymunodd Hugh a Hugh, Iarll Amwythig i geisio adennill Gwynedd, ond bu raid i'r Normaniaid encilio wedi i Iarll Amwythig gael ei ladd gan Magnus III, brenin Norwy mewn brwydr ar Afon Menai. Olynwyd Hugh fel Iarll Caer gan ei fab, Richard.

Cyfeiriadau

golygu
  NODES
eth 8