Hwyatbig
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Monotremata
Teulu: Ornithorhynchidae
Genws: Ornithorhynchus
Blumenbach, 1800
Rhywogaeth: O. anatinus
Enw deuenwol
Ornithorhynchus anatinus
(Shaw, 1799)
Cynefin yr hwyatbig (mewn graddliw)

Mamal cyfandroed lled-ddyfrol gyda chynffon lydan fflat a thrwyn cnodiog yn debyg i big hwyaden yw'r hwyatbig. Mae'n frodorol i ddwyrain Awstralia ac ynys Tasmania. Un o'r pum rhywogaeth gyfoes o'r monotremiaid yw'r hwyatbig, ynghyd â'r pedair rhywogaeth o echidna, sef yr unig mamaliaid sy'n dodwy wyau yn hytrach na rhoi genedigaeth i epil byw.

Bathwyd y term hwytbig yn 1866 dan ddylanwad y gair Saesneg duck-billed (platypus). Defnyddiwyd enwau Cymraeg eraill ar y pryd hefyd, gan gynnwys adarbig ac aderyndrwyn. Gwelir y gair platypws hefyd yn Gymraeg, a ddaw yn y pen draw o'r Hen Roeg πλατύπους, sydd â'r ystyr "troed wastad".[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Geiriadur Prifysgol Cymru".
  Eginyn erthygl sydd uchod am Awstralia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am famal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  NODES