Ifor Williams

Athro prifysgol, ysgolhaig

Ysgolhaig Cymraeg oedd Syr Ifor Williams (16 Ebrill 18814 Tachwedd 1965), un o ffigyrau mwyaf blaengar ym myd astudiaethau Celtaidd yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif. Ei arbenigedd oedd llenyddiaeth Gymraeg gynnar, yn enwedig barddoniaeth Hen Gymraeg. Cynhyrchodd y golygiadau safonol o nifer o destunau o bwys, yn enwedig Canu Aneirin, Canu Taliesin a Pedair Cainc y Mabinogi. Treuliodd ei holl yrfa ym Mangor, ger ei bentref genedigol, lle roedd e'n athro yn Adran Gymraeg y brifysgol.

Ifor Williams
Ifor Williams yn Chwefror 1965
Ganwyd16 Ebrill 1881 Edit this on Wikidata
Tre-garth Edit this on Wikidata
Bu farw4 Tachwedd 1965 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethieithydd, beirniad llenyddol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd yr Academi Brydeinig Edit this on Wikidata
Erthygl am yr ysgolhaig yw hon. Am y cwmni Cymreig gweler Trelars Ifor Williams.

Meddai Bob Owen, Croesor amdano: "ef yw'r myfyriwr caletaf yn ein hanes fel cenedl".[1]

Bywgraffiad

golygu

Fe'i ganed ym Mhendinas, Tregarth, ger Bangor, yn fab i chwarelwr, John Williams a'i wraig Jane. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle astudiodd Gymraeg a Groeg. Dysgodd yno tan iddo ymddeol yn 1947. Penodwyd yn ddarlithydd cynorthwyol o dan yr Athro Syr John Morris-Jones. Derbyniodd gadair bersonol yn 1920, gan ddod yn bennaeth ar yr Adran Gymraeg yno pan fu farw Morris-Jones yn 1929.

Cyfraniad i astudiaethau Celtaidd

golygu

Roedd prif gyfraniad Wiilliams i ysgolheictod Cymraeg ym maes barddoniaeth gynnar. Golygodd nifer o testunau cynnar pwysig, sef y gweithiau barddol Canu Llywarch Hen (1935), Canu Aneirin (1938, y testun safonol cyntaf o'r Gododdin), Armes Prydain (1955) a Chanu Taliesin (1960).

Gwnaeth gyfraniad o bwys i astudiaeth rhyddiaith Gymraeg ganoloesol hefyd. Golygodd y gweithiau rhyddiaith Breuddwyd Maxen, Cyfranc Lludd a Llevelys (1910), Chwedlau Odo a Pedeir Keinc y Mabinogi. Golygydd Y Traethodydd oedd ef o 1939 tan 1964 a golygydd Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd o 1937 tan 1948. Mae ei argraffiad o'r Pedair Cainc yn dal i fod yn safonol heddiw.

Rhai gweithiau eraill

golygu

Un o hoff bynciau Ifor Williams oedd enwau lleoedd Cymraeg ac erys ei gyfrol Enwau Lleoedd (1945) yn gyflwyniad safonol i'r pwnc. Ysgrifennodd yn ogystal Meddwn I (1946), cyfres o draethodau radio poblogaidd ar bynciau amrywiol. Mae'r gyfrol I Ddifyrru'r Amser (1959) yn cynnwys nifer o ysgrifau byr amrywiol, e.e. atgofion am ei blentyndod, myfyrdodau, ac ati.

Gweithiau

golygu

Ceir llyfryddiaeth lawn o waith Ifor Williams yn y gyfrol Sir Ifor Williams[:] A Bibliography, gol. Alun Eirug Davies (allbrintiwyd o Studia Celtica IV). Defnyddiol hefyd yw Mynegai i weithiau Ifor Williams, gol. Thomas Parry (Caerdydd, 1939).

  • (gol.) Breuddwyd Maxen (Bangor: Jarvis a Foster, 1908)
  • (gol.) Casgliad o Waith Ieuan Deulwyn (Bangor: Welsh Manuscripts Society, 1909)
  • (gol. gyda Thomas Roberts) Cywyddau Dafydd ap Gwilym a’i gyfoeswyr (Bangor: Evan Thomas, 1914)
  • (gol. gyda Henry Lewis a Thomas Roberts) Cywyddau Iolo Goch ac Eraill, 1350–1450 (Bangor: Evan Thomas, 1925; ail argraffiad diwgiedig, 1938)
  • (gol.) Canu Llywarch Hen (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1935)
  • (gol.) Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1930)
  • (gol.) Canu Aneirin (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1938)
  • Lectures on Early Welsh Poetry (Dublin: Dublin Institute of Advanced Studies, 1944)
  • Enwau Lleoedd (Lerpwl: Gwasg y Brython, 1945)
  • Meddwn i (Llandebie: Llyfrau’r Dryw, 1946)
  • Chwedl Taliesin (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1957)
  • (gol.) Canu Taliesin (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1960)

Cyfeiriadau

golygu
  1. Dyfed Evans, Bywyd Bob Owen (Caernarfon: Gwasg Gwynedd, 1979), t. 75.
  NODES