Ilar
Sant o'r 6g o Gymru oedd Sant Ilar (Lladin: Elerius; Saesneg (o bosib): Hilary, Hilarus)[1]) a gysylltir gyda dwy eglwys: Llanilar a Threfilan (hen enw: "Trefilar"); lleolir Llanilar yng ngogledd Ceredigion tua 4 milltir i'r de o Aberystwyth, a Threfilar ddeng milltir i'r de o Lanilar. Gelwir ef weithiau'n Ilar Bysgotwr.[2][3] Mae Lewis Glyn Cothi (C15) yn cyfeirio at Ilar:
Ilar | |
---|---|
Ganwyd | 6 g Teyrnas Ceredigion |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | mynach |
Blodeuodd | 570s |
Dydd gŵyl | 13 Ionawr, 14 Ionawr, 15 Ionawr |
- gwyl Ilar hael a'i loer hir.[4]
Rhestrir Ilar fel un o seintiau'r Eglwys Geltaidd mewn sawl dogfen.[3][4][5][6][8] Roedd 'Ilar' hefyd yn gantref. Mae ei ddydd gŵyl yn amrywio rhwng 13-15 Ionawr, ond nid yw'n cael ei dathlu bellach gan yr Eglwys yng Nghymru.[9][10]
Mae rhai ysgolheigion wedi'i gysylltu gyda Hilary o Boitiers, ond mae'r rhan fwyaf yn mynnu fod y ddau sant yn bersonau cwbwl wahanol. Efallai mai achos y dryswch hwn oedd i rai haneswyr ei gangymryd am Sant Elian.[11] Ceir pab yng nghanrif 5 hefyd o'r enw Hilarius, gyda chysylltiad Cymreig, a ordeiniodd Sant Elfis, a ordeiniodd, yn ei dro, Dewi Sant.
Llydaw
golyguYchydig a wyddom am Ilar, ar wahân i'w enw, ei gysylltiad gyda dwy eglwys ac iddo fod yn gyfaill i Sant Padarn a bod ganddo gysylltiad â Llydaw.[12][13] a Chadfan.[5][14] Awgrymir hefyd iddo gael ei ladd gan Sacsoniaid neu Wyddelod.
Llenyddiaeth
golyguCeir cyfeiriad at Sant Ilar gan Arthur Machen yn 1907, pan sgwennodd stori fer, "Levavi Oculos"[15] ac eilwaith mewn ailbobiad o'r gwaith, sef ei nofel The Secret Glory (1922),[16] sef stori am blentyn a'r Greal Santaidd.
Gweler hefyd
golyguOriel
golygu-
Llanilar, Ceredigion
-
Trefilan, Ceredigion
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Stanton, Richard. A Menology of England and Wales: Or, Brief Memorials of the Ancient British and English Saints Arranged According to the Calendar, Together with the Martyrs of the 16th and 17th Centuries, tud. 703. Bunrs & Oates, 1892.
- ↑ Gweler: The Myvyrian Archaiology of Wales, 2nd ed., tud. 426. (Denbigh), 1870. Cyfeiriad yn Bartrum.
- ↑ 3.0 3.1 Jones, Owen. Cymru: yn Hanesyddol, Parthedegol a Bywgraphyddol, Cyfrol I, tud. 676, 1875, cyfeiriad yn Y Cymmrodor, Cyfr. XXVII, tud. 139. Society of Cymmrodorion, 1917.
- ↑ 4.0 4.1 Baring-Gould, Sabine & al. The Lives of the British Saints: The Saints of Wales and Cornwall and Such Irish Saints as Have Dedications in Britain, Vol. III, pp. 299 f. Chas. Clark (Llundain), 1908. Hosted at Archive.org. Adalwyd 25 Tachwedd 2014.
- ↑ 5.0 5.1 Williams, Robert. Enwogion Cymru: A Biographical Dictionary of Eminent Welshmen from the Earliest Times to the Present and Including Every Name Connected with the Ancient History of Wales, p. 242. Longman & Co. (London), 1852.
- ↑ Wade-Evans, A.W. "Parochiale Wallicanum" yn Y Commrodor, Cyfr. XXII, tud. 62. Honorable Society of Cymmrodorion (London), 1910. Cyfeiriad yn Bartrum.
- ↑ Unnone, T.C. Notes & Queries, 5ed cyfrol, Cyfr. III, Rhif 58, tud. 106. J. Francis (London), 6 Chwefror 1875.
- ↑ "Bonedd y Saint" - gweler y Myvyrian Archæology, tud. 426, cyfeiriad yn Notes & Queries.[7]
- ↑ Baring-Gould & al., Vol. I, p. 70.
- ↑ The Church in Wales. "The Book of Common Prayer for Use in the Church in Wales: The New Calendar and the Collects Archifwyd 2014-12-15 yn y Peiriant Wayback". 2003. Adalwyd 18 Tachwedd 2014.
- ↑ Baring-Gould & al., Vol. II, pp. 203 f.
- ↑ Reiter, Geoffrey. "'An Age-Old Memory': Arthur Machen's Celtic Redaction of the Welsh Revival in The Great Return" in Critical Explorations in Science Fiction and Fantasy, No. 33: Welsh Mythology and Folklore in Popular Culture, tud. 75. McFarland & Co. (Jefferson), 2011.
- ↑ Davies, J. Ceredig. "Brittany and Cardiganshire" yn Transactions and Archaeological Record, Cyfr. I, Rhif. 4, tt. 40. Bridge Press (Llambed) ar gyfer The Cardiganshire Antiquarian Society, 1914.
- ↑ "Genealogies of the British Saints", supposedly from the book of Thomas Hopkin of Coychurch (1670), cyfeiriad yn: Jolo Manuscripts, tud. 506
- ↑ Machen, Arthur. "Levavi Oculos" yn The Academy, Cyfrol LXXIII, tud. 923 ff. H. E. Morgan (London), 1907. Gweler: Google Books.
- ↑ Machen, Arthur. The Secret Glory, II, iii. Alfred A. Knopf (New York), 1922. Hosted at the Gutenberg Project.