Mudiad diwylliannol, gwleidyddol, a deallusol yn America Ladin yw indigenismo sy'n arddel cynrychioli'r bobloedd frodorol neu Indiaidd/Amerindiaidd, yn dathlu eu cymdeithas a'u diwylliant, ac yn tynnu sylw at yr hanes o ymyleiddio, ecsbloetio, ac erledigaeth yn eu herbyn. Bu'r mudiad ar ei gryfaf yng ngwledydd yr Andes, yng Nghanolbarth America, ac ym Mecsico. Fel ideoleg wleidyddol, blodeuai yn hanner cyntaf yr 20g ar y cyd â mudiadau chwyldroadol ac ymgyrchoedd dros egalitariaeth ar draws America Ladin. Mae nifer o lenorion, arlunwyr, a meddylwyr o hyd yn uniaethu â dulliau ac amcanion indigenismo.

Llenyddiaeth

golygu

Sefydlwyd indigenismo fel mudiad llenyddol gan yr ysgrifwr José Carlos Mariátegui o Beriw yn ei gyfrol Siete ensayos de interpretación de la realidad peruana (1928). Lluniodd Mariátegui indigenismo ar wahân i Indianismo, sef genre neu arddull sy'n portreadu brodorion yr Amerig mewn ffyrdd dieithr a sentimental, cynrychioliad poblogaidd ohonynt mewn llên y 19g a ddylanwadwyd gan Ramantiaeth yr Ewropeaid. Dadleuodd Mariátegui dros bortreadau cywirach o hanes y brodorion sy'n cydnabod y grymoedd cymdeithasol ac economaidd a fuont yn eu gwastrodi. Gellir ystyried y nofel Aves sin nido (1889) gan yr awdur Periwaidd Clorinda Matto de Turner yn esiampl o'r fath lên sy'n rhagflaenu mudiad indigènista. Enghreifftiau pwysig eraill yn y genre ydy Raza de Bronce (1916) gan Alcides Arguedas o Folifia, Huasipungo (1934) gan Jorge Icaza o Ecwador, ac El mundo es ancho y ajeno (1941) gan Ciro Alegría o Beriw. Yn hanner cyntaf yr 20g ymddengys llên indígena yn fudiad paradocsaidd, gan iddi gynnwys ymdrechion gan lenorion dysgedig, o'r dinasoedd gan amlaf, i bortreadu bywydau gwirioneddol y bobloedd frodorol, a hynny drwy ddulliau adrodd stori y traddodiad Gorllewinol, mewn tesun o iaith dramor (Sbaeneg) ac yn llawn darnau sy'n egluro geirfa ac ati i'r darllenwr. Mae'r llenyddiaeth hon felly yn nodweddiadol o'r ymddiwylliannu a brofwyd yn America Ladin a natur gymathol yr hunaniaethau genedlaethol yn y Byd Newydd. Mae ffuglen y mudiad yn cyfuno dehongliadau yn nhraddodiad costumbrismo ag achosiaeth naturiolaidd a realaidd o ran ei thraethiad.[1]

Cynhwysir weithiau nofelau a ddylanwadwyd gan foderniaeth Ewropeaidd, megis gweithiau José María Arguedas, Rosario Castellanos, Miguel Angel Asturias, a Manuel Scorza, yn rhan o fudiad neo-indigenismo. Mae'r rhain yn defnyddio cyfanfydolwg (cosmovisión) y brodorion i archwilio hunaniaethau America Ladin, yn hytrach na phwysleisio anghydraddoldebau cymdeithasol yn y byd modern.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Fernando J. Rosenberg, "indigenismo" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), t. 274–75.
  NODES