Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur

Mae'r Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (Ffrangeg: Union internationale pour la conservation de la nature [UICN]; Saesneg: International Union for Conservation of Nature (IUCN)) yn sefydliad byd-eang sydd a'i fryd ar "ddarganfod atebion mwyaf pragmatig i broblemau cyfnewidiol yr amgylchedd".[1] Dyma'r corff sy'n cyhoeddi Rhestr Goch yr IUCN o greaduriaid sydd dan fygythiad, sef rhestr sy'n asesiad cyfoes o statws gadwriaethol creduriaid ledled y byd.[2]

Undeb Rhyngwladol
dros Gadwraeth Natur
Union internationale
pour la conservation de la nature
MathSefydliad Rhyngwladol
SefydlwydHydref 1948, Fontainebleau, Ffrainc
Pencadlys
Prif boblJulia Marton-Lefèvre (Uwch Gyfarwyddwr)
Zhang Xinsheng (Llywydd)
Y lle a wasanaethirY byd cyfan
FfocwsCadwraeth, bioamrywiaeth, Atebion naturiol
Datganiad o genhadaethDylanwadu, hybu, annog a chynorthwyo cymdeithasau byd-eang i warchod integriti ac amrywiaeth natur a sicrhau fod y defnydd o unrhyw adnoddau naturiol ecolegol gydbwyso ac yn gynaliadwy.
Nifer a gyflogirDros 1,000 (yn fyd-eang)
GwefanIUCN

Mae'r IUCN yn cefnogi ymchwil ac yn rheoli prosiectau maes drwy'r byd, ac yn ddull o uno mudiadau di-lywodraeth (fel yr awgryma'r enw "Undeb") ac asiantaethau'r Cenhedloedd Unedig, cwmniau a chymunedau lleol gan gydlynu'u holl weithgareddau a chreu polisiau. Dyma rwydwaith amgylcheddol hyna'r byd ac mae ganddo aelodaeth ddemocrataidd o dros 1,000 o sefydliadau a thros 11,000 o wyddonwyr gwirfoddol mewn dros 160 o wledydd. Mae ganddyn nhw dros 1,000 o staff proffesiynol a channoedd o bartneriaid ym mhob sector ar hyd a lled y byd. Mae pencadlys yr undeb yn Gland, Swistir.[1]

Gweledigaeth IUCN yw byd cyfiawn sy'n "rhoi gwerth ar natur ac yn ei warchod".[3]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "International Union for Conservation of Nature". iucn.org. IUCN. Cyrchwyd 20 Mai 2010.
  2. "Planet Of No Apes? Experts Warn It's Close". cbsnews.com. CBS News Online. 12 Medi 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-10. Cyrchwyd 22 Mawrth 2008. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  3. "About IUCN". iucn.org. IUCN. Cyrchwyd 28 Awst 2011.
  NODES
INTERN 5