Jathara Parivartanasana (Y Boldro)

asana lledorweddol o fewn ioga modern

Asana, neu osgo'r corff, o fewn ymarferion ioga yw Jathara Parivartanasana (Sansgrit ञठर परिवर्तनासन), neu'r Boldro a gelwir y math hwn o asana yn asana lledorwedd gyda thro; fe'i ceir oddi fewn i Ioga modern fel ymarfer corff.[1][2][3]

Jathara Parivartanasana
Enghraifft o'r canlynolasana Edit this on Wikidata
Mathasanas lledorwedd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Geirdarddiad

golygu

Daw'r enw o'r Sansgrit ञठर Jaṭhara, stumog neu abdomen; परिवर्तन Parivartana, i droi o gwmpas; a आसन āsana, ystum neu safle'r corff mewn ioga.[4]Little, Tias (20 Mawrth 2017). "Master Revolved Abdomen Pose". Yoga Journal. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.</ref> Ni cheir yr asama (neu osgo) yma mewn testunau ioga hatha canoloesol, ond fe'i disgrifir mewn llawlyfrau o'r 20g gan gynnwys Light on Yoga 1966 BKS Iyengar.[5]

Disgrifiad

golygu

Mae'r asana llawn, a elwir weithiau yn Jathara Parivartanasana B, yn dilyn asana ar y cefn, gyda'r breichiau'n lledu ar y llawr, yn wastad â'r ysgwyddau. Ar gyfer yr asana llawn, mae'r coesau'n cael eu codi'n syth i fyny ac yna'n cael eu gostwng i un ochr, gan gadw'r ysgwydd gyferbyn ar y llawr.[5][6]

Yn Ioga ashtanga vinyasa, mae'r asana'n cael ei ddefnyddio'n ofalus, ar y cyd ag ymarferion cyhyrau dwfn, i helpu i leddfu poen yng ngwaelod y cefn: nid yw'n ddigon ar ei ben ei hun gan fod angen datblygu cryfder y cyhyrau craidd ar hyd yr asgwrn cefn hefyd.[7]

Amrywiadau

golygu

Ar gyfer osgo haws, a elwir weithiau'n Jathara Parivartanasana A,[2] mae'r pengliniau'n cael eu plygu dros y corff, a'u cylchdroi i un ochr;[4] gall y coesau wedyn gael eu sythu.[6]

Yn Ioga Iyengar, mae'r cluniau'n cael eu symud ychydig i ffwrdd o'r ochr y bydd y coesau'n disgyn cyn y cylchdro. Gellir dal pwysau yn y llaw ar yr ochr arall. Gellir hefyd ymarfer yr asana gyda'r coesau'n disgyn hanner ffordd i lawr.[8]

Gweler hefyd

golygu

Llyfryddiaeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Revolved Abdomen Pose (Jathara Parivartanasana): Steps, Precautions & Benefits". www.yogawiz.com. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.[dolen farw]
  2. 2.0 2.1 "Jathara Parivartanasana A". Yogapedia. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.
  3. "Belly Twist (Version A) | Jathara Parivartanasana A". Yoga Basics. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.
  4. 4.0 4.1 Little, Tias (20 Mawrth 2017). "Master Revolved Abdomen Pose". Yoga Journal. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.Little, Tias (20 Mawrth 2017).
  5. 5.0 5.1 Iyengar 1979.
  6. 6.0 6.1 Mehta 1990.
  7. Steiner, Ronald (1 Mawrth 2014). "The Right Twist for a Healthy Back". Ashtanga Yoga. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.
  8. Mehta 1990, t. 85.
  NODES