Dringwr a mynyddwr o Sais oedd Joe Brown (26 Medi 193015 Ebrill 2020).[1] Ganed ef yn Ardwick, Manceinion, a daeth i amlygrwydd fel dringwr yn y 1950au, ym aml yng nghwmni Don Whillans.

Joe Brown
Ganwyd26 Medi 1930 Edit this on Wikidata
Manceinion Edit this on Wikidata
Bu farw15 Ebrill 2020 Edit this on Wikidata
Llanberis Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethdringwr mynyddoedd, dringwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Siop Joe Brown yn Llanberis.

Bu'n dringo llawer yn Eryri, yn enwedig ar glogwyni Bwlch Llanberis, yn cynnwys Dinas y Gromlech, a Chlogwyn Du'r Arddu, lle arloesodd nifer o lwybrau enwog. Bu hefyd yn dringo yn yr Alpau a'r Himalaya; yn 1955 ef a George Band oedd y cyntaf i ddringo Kangchenjunga. Yn 1956 dringodd ef ac Ian McNaught-Davis gopa gorllewinol Tŵr Mustagh yn y Karakoram am y tro cyntaf.

Yn 1966 symudodd ef a'i wraig, Val, i bentref Llanberis ac agor siop offer mynydda yno. Ddeng mlynedd yn ddiweddarch, agorodd siop arall yng Nghapel Curig.

Bu farw yn ei gartref yn Llanberis yn 89 oed, wedi salwch.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Joe Brown, The Hard Years (1967).

Cyfeiriadau

golygu
  1. Climbing legend Joe Brown has died (en) , Daily Post, 16 Ebrill 2020.
  NODES