John Ballinger
llyfrgellydd cyntaf Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Syr John Ballinger (12 Mai 1860 - 8 Ionawr 1933) oedd llyfrgellydd cyntaf Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ganwyd ef ar y 12fed o Fai 1860 ym Mhontnewynydd, Sir Fynwy.
John Ballinger | |
---|---|
Ganwyd | 12 Mai 1860 Pontnewynydd |
Bu farw | 8 Ionawr 1933 Penarlâg |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llyfrgellydd |
Cyflogwr |
|
Plant | Amy Noel Morfydd Ballinger |
Gwobr/au | CBE, Marchog Faglor |
Bu'n lyfrgellydd yn Doncaster a Chaerdydd cyn cael ei benodi'n lyfrgellydd cyntaf Llyfrgell Genedlaethol Cymru ym 1908.
Fe'i urddwyd yn C.B.E. yn 1920 ac yn farchog yn 1930. Derbyniodd fedal Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ym 1932 am ei wasanaeth i Gymru.
Bu farw ym Mhenarlâg, Sir Fflint, ar 8 Ionawr 1933.