Kūkai

Mynach cyfnod Heian Siapaneaidd

Arweinydd crefyddol a llenor o Siapan a adnabyddir hefyd dan ei enw crefyddol Kōbō Daishi oedd Kūkai (774-835).

Kūkai
Ffugenw教海, 如空, 空海, 空海上人, お大師さん, お大師様 Edit this on Wikidata
Ganwyd佐伯眞魚 Edit this on Wikidata
27 Gorffennaf 774 Edit this on Wikidata
Tado district, Zentsū-ji, Kaigan-ji Edit this on Wikidata
Bu farwKōyasan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethJapan Edit this on Wikidata
Galwedigaethgeiriadurwr, ieithydd, bardd, caligraffydd, bhikkhu, athronydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amBunkyō Hifuron, Tenrei Banshō Meigi, Jūjū Shinron, Sangō Shiiki, Fūshinjō, Secret Key to the Heart Sutra, Shōryōshū, 3D Mandala, Toji Edit this on Wikidata
TadSaeki no Tagimi Edit this on Wikidata
MamTamayorigozen Edit this on Wikidata
PerthnasauChisen, Shinzen, Enchin Edit this on Wikidata
LlinachNao Saeki Edit this on Wikidata

Yn bolymath o ysgolhaig athrylithgar, roedd un o brif ffigyrau bywyd ymenyddol y cyfnod Heian a'r Siapanwr cyntaf i ysgrifennu Tsieineeg lenyddol o safon uchel; ffrwyth ei daith i Tsieina (804-806). Ar ôl dychwelyd i Siapan cododd fynachlog ar fynydd Kōyasan, tua 50 milltir i'r de o Heian Kyo (Kyoto heddiw) ac yno yn 816 sefydlodd yr enwad Shingon ("Y Gair Cywir") sy'n cyfuno Bwdhiaeth gyfriniol ag elfennau o Shintō, crefydd genedlaethol Siapan, ynghyd â phwyslais pantheistaidd.

Yn ôl traddodiad Kūkai yw sefydlwr y wyddor sillafaidd Siapanaeg Kana, sail y Katakana a'r Hiragana a ddefnyddir heddiw. Ysgrifennodd Kūkai sawl traethawd crefyddol ac athronyddol, e.e. Sokushin-Jobutsu-Gi ("Egwyddor Cyrraedd Bwdha-iaeth yn y Corff Presennol"). Ei waith llenyddol pwysicaf yw'r Shōrai Mokuroku, sy'n gyfuniad o hunangofiant ysbrydol yr awdur a deialog athronyddol esoterig rhyngddo a'i brif ddisgybl Hui-kuo (764-805). Erys Kūkai yn ffigwr allweddol ym mywyd ysbrydol a diwyllianol Siapan heddiw.

Llyfryddiaeth fer

golygu
  • Yoshito S. Hakeda, Kukai and His Major Works (Columbia University Press, 1984).
  • Donald Keene (gol.), Anthology of Japanese Literature (Llundain, 1956), tt. 63-7.

Dolenni allanol

golygu
  NODES
3d 1
os 2